Mae grantiau gwerth cyfanswm o £72,490 wedi’u rhoi i grwpiau cymunedol ledled Gwent yn nigwyddiad Eich Llais, Eich Dewis eleni

14eg Mawrth 2022

Mae 'Eich Llais, Eich Dewis' yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol Uwch Siryfion Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a Sefydliad Cymunedol Cymru, sy'n dyfarnu grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.

Mae Cronfa Gymunedol Uwch Siryfion Gwent yn gweithio i ddatblygu cymunedau mwy diogel yng Ngwent drwy gefnogi prosiectau sy'n mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

Dywedodd Uwch Siryf Gwent, Phillip Alderman: "Roedd yn wych gallu cynnal Eich Llais Eich Dewis fel digwyddiad wyneb yn wyneb ddydd Sadwrn. Roedd pob un o'r grwpiau yn rhagorol ac roedd yn ymddangos eu bod yn mwynhau gallu rhwydweithio eto. Grwpiau cymunedol yn cyfarfod mewn lleoliad sydd wrth wraidd ei gymuned yw'r hyn y mae Eich Llais Eich Dewis yn ceisio ei hybu.

"Gobeithio y bydd yr arian a roddwyd yn caniatáu i'r holl brosiectau dyfu a pharhau i wneud ein cymuned yn lle gwell, mwy diogel a hapusach i fyw ynddo."

 

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn cyfrannu £65,000 at y cynllun. Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: "Rwyf wedi ymrwymo i alluogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau hapusach ac iachach, heb fod ofn troseddu."

 

Trwy gefnogi Cronfa Uwch Siryfion Gwent rydym yn helpu i sicrhau bod grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yn cael cyllid hanfodol i gefnogi pobl ifanc yn eu hardal.

 

"Roedd yn wych gweld ymrwymiad, ymroddiad ac egni cynifer o grwpiau sy'n gweithio i wneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc yn eu cymunedau, ac rwy'n falch bod pawb wedi gallu cael cyllid a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu prosiectau."

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru: "Roedd yn wych gallu dod â'r grwpiau at ei gilydd yn bersonol eleni. Unwaith eto, dangosodd sefydliadau cymunedol yng Ngwent eu prosiectau anhygoel sy'n helpu i wella bywydau pobl yn eu cymuned leol.

 

"Mae Eich Llais, Eich Dewis yn rhoi llwyfan i grwpiau cymunedol rannu eu straeon, yn aml drwy eiriau'r bobl y maen nhw’n eu cynorthwyo. Mae'n rhoi'r pŵer yn nwylo pobl leol i flaenoriaethu atebion i faterion lleol.

 

"Hoffem ddiolch i bawb a ymunodd â ni ac a gymerodd ran yn ‘Eich Llais, Eich Dewis’ eleni."

 

Y sefydliadau a gafodd grantiau yn nigwyddiad 2022 oedd:

 

G-Expressions

Cerddoriaeth Gwent

Shaftesbury Youf Gang

HCT (Help Caring Team)
StreetDoctors

Theatr Ieuenctid Savoy

Rewild Play

The Bigger Picture

Ysgol Gynradd Glyn Gaer

Clwb Ffermwyr Ifanc Gwent

Llamau