Mae angen gwirfoddolwyr i fonitro lles cŵn heddlu

22ain Mehefin 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn recriwtio gwirfoddolwyr sy'n angerddol ynghylch anifeiliaid i helpu i sicrhau bod cŵn Heddlu Gwent yn cael eu trin yn dda.

Mae ymwelwyr lles anifeiliaid yn ymweld â chŵn heddlu'n rheolaidd i sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu bodloni o ran lles anifeiliaid.

Cawsant eu cyflwyno ar ôl i farwolaeth ci heddlu yn Essex ym 1997 gael llawer o sylw yn y wasg a’r cyfryngau.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae ein Hymwelwyr Lles Anifeiliaid yn chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau bod cŵn heddlu'n derbyn gofal o'r safon uchaf, a bod eu lles corfforol ac emosiynol yn cael ei warchod.

"Mae hon yn swyddogaeth werthfawr sy'n galluogi gwirfoddolwyr i wneud cyfraniad i les anifeiliaid a phlismona yng Ngwent a hoffwn annog unrhyw un â diddordeb i gysylltu er mwyn cael mwy o wybodaeth."

Am ragor o fanylion ewch i wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.