Llefydd gwag ar y cydbwyllgor archwilio

2il Mawrth 2022

Ydych chi eisiau helpu i hyrwyddo a chraffu ar lywodraethu corfforaethol yn y maes plismona? Allech chi gynnig barn gadarn ac annibynnol ynglŷn â rheolaeth fewnol?

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a'r Prif Gwnstabl eisiau penodi dau unigolyn sydd â dealltwriaeth a phrofiad o ddeddfwriaeth a chanllawiau yn y sector cyhoeddus i eistedd fel aelodau annibynnol o'r Cydbwyllgor Archwilio.

Mae'r Cydbwyllgor Archwilio yn adolygu a chraffu ar faterion Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent, gan edrych ar faterion megis rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol yn ogystal â goruchwylio trefniadau archwilio ac adolygu datganiadau ariannol.

Rhagor o wybodaeth