Lansio Cadw’n Ddiogel

13eg Hydref 2022

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi lansio taflen Hawdd ei Darllen i helpu pobl ag anableddau i ddeall pan fo trosedd gasineb wedi ei chyflawni a sut i’w riportio.

Gweithiodd tîm o Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyda grwpiau anabledd lleol i greu’r daflen ‘Cadw’n Ddiogel’, gan wneud yn siŵr ei bod yn hygyrch ac yn hawdd i bobl ag amrywiaeth o anableddau ei deall.

Cafodd ei lansio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Drosedd Gasineb fel rhan o ymgyrch ehangach i godi ymwybyddiaeth o drosedd gasineb yng Ngwent.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae trosedd gasineb yn ofnadwy ac yn gymhleth a gall olygu bod dioddefwyr yn ymdopi â niwed corfforol ac emosiynol am flynyddoedd lawer. Yn drist, mae trigolion ag anableddau yn aml yn cael eu targedu ar gyfer y drosedd ofnadwy hon.

“Nod y daflen hon yw ein helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng pobl ag anableddau a’r heddlu, a chynyddu riportio troseddau casineb yng Ngwent. Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth weithio’n galed i’n helpu ni i’w chreu.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef unrhyw fath o drosedd gasineb i’w riportio, neu os yw wedi digwydd yn y gorffennol, gofynnwch am help a chefnogaeth.

“Mae Connect Gwent, yr wyf yn falch o’i ariannu, yn rhoi cyngor a chefnogaeth gyfrinachol i ddioddefwyr troseddau casineb.”

Mae llawer o ffyrdd o riportio digwyddiad:

  • Mewn argyfwng ffoniwch 999
  • I riportio digwyddiad ffoniwch 101
  • Anfonwch neges i @gwentpolice ar y cyfryngau cymdeithasol
  • E-bostiwch contact@gwent.police.uk
  • Riportiwch drosedd gasineb yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers 0800 555 111
  • I ofyn am help a chefnogaeth ffoniwch Connect Gwent: 0300 302 3670 neu ewch i: https://connectgwent.org.uk