Hwnt ac yma

11eg Awst 2022

Yr wythnos hon, buom hefyd yn ymweld â digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd a Pharc Bryn Bach ym Mlaenau Gwent.

Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle gwych i ni siarad ag oedolion a phlant am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.

Os ydych yn cynnal digwyddiad cymunedol a hoffech i ni fod yn bresennol, cysylltwch â fy swyddfa.