Helpu dioddefwyr a thystion cam-drin domestig yn ystod yr achos llys

8fed Hydref 2026

Mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gamdriniaeth yn gallu cael cymorth i deimlo'n fwy diogel pan fyddant yn rhoi tystiolaeth neu'n bresennol yn y llys.

Efallai y bydd gan ddioddefwyr a thystion cam-drin domestig neu drais rhywiol y mae gofyn iddyn nhw roi tystiolaeth mewn treial neu fynd i wrandawiad teuluol hawl i fesurau arbennig.  

Mae'r rhain yn cynnwys mynediad at gyfleusterau fideo-gynadledda diogel sy'n galluogi dioddefwyr a thystion i roi tystiolaeth i'r llys o bell.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall mesurau arbennig gynnwys y canlynol hefyd:

  • Defnyddio sgrin mewn llys i guddio'r dioddefwr neu dyst
  • Defnyddio ystafell ar wahân i roi tystiolaeth
  • Recordio tystiolaeth cyn y treial fel y gellir ei chwarae yn y llys
  • Gofyn i gyfreithwyr a barnwyr dynnu eu wigiau a'u gynau
  • Gofyn i aelodau'r cyhoedd adael cyn i dystiolaeth gael ei rhoi


Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'n hollbwysig bod dioddefwyr a thystion troseddau yn gallu rhoi tystiolaeth mewn amgylchedd lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael cefnogaeth, a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.

"Yng Ngwent, mae gennym gyfleusterau fideo-gynadledda diogel sy'n galluogi dioddefwyr a thystion i roi eu tystiolaeth o bell, gan helpu i leihau'r straen a'r pryder y gall bod yn bresennol yn y llys ei achosi.

"Rydym yn gwybod bod y broses yn y llys yn gallu teimlo'n fygythiol, yn arbennig i bobl sydd wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'r mesurau hyn mewn lle i gefnogi pobl, amddiffyn eu hurddas a'u helpu nhw i gymryd rhan yn y broses cyfiawnder mewn ffordd sy'n teimlo mor ddiogel â phosibl."

Os ydych chi, aelod o'r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi'n pryderu amdano wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 80 i gael cyngor a chymorth am ddim. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.