Heddlu Gwent yn derbyn 47 swyddog newydd

21ain Mawrth 2023

Yr wythnos yma cefais y fraint o gael gwahoddiad i seremoni cwblhau hyfforddiant 47 swyddog heddlu newydd.

Mae’r recriwtiaid newydd wedi cwblhau eu cymwysterau a’u hyfforddiant trwy Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu a byddant yn gweithio mewn timau plismona ledled pum sir Gwent yn awr.

Pan gefais fy ethol yn 2016 ymrwymais i gynyddu nifer y swyddi ar gyfer swyddogion heddlu ac rwy’n falch i ddweud ein bod ni mewn lle llawer gwell yn awr gyda dros 200 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gwasanaethu ein cymunedau.

Mae’r recriwtiaid newydd wedi gweithio’n galed yn ystod eu hyfforddiant a rhaid canmol eu hymrwymiad a’u hymroddiad. Dymunaf bob hwyl iddyn nhw yn eu swyddi newydd.