Gwrando ar bobl ifanc

16eg Chwefror 2023

Yr wythnos hon aeth fy nhîm i dair sioe deithiol iechyd a lles yn safleoedd Coleg Gwent yng Nglynebwy, Torfaen, a Chasnewydd.

 

Thema'r sioeau teithiol oedd cydberthnasau iach, a rhannodd y tîm amryw o daflenni a chyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein, sut i osgoi twyll rhamant, ac ar beryglon a chanlyniadau 'secstio', sef anfon a/neu dderbyn delweddau noeth.

 

Ymunodd swyddogion Heddlu Gwent yn rhai o'r sesiynau i siarad am y gwahanol swyddi yn y maes plismona a phrosesau recriwtio i ymuno â Heddlu Gwent. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol lwybrau i mewn i blismona, ewch i  wefan Heddlu Gwent: https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/careers/join-us/vacancies/

 

Roedd y digwyddiadau hefyd yn gyfle i hyrwyddo fy nigwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid ym mis Mawrth. Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly; Comisiynydd Plant Cymru; Dr Jane Dickson, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; a minnau am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw.



Mae Hawl i Holi Ieuenctid yn digwydd ddydd Mercher 15 Mawrth, 6-8pm ym Mharth Dysgu Torfaen Coleg Gwent yng Nghwmbrân. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â fy swyddfa: commissioner@gwent.police.uk neu.

 

Mae siarad â phobl ifanc a gwrando arnyn nhw'n bwysig ac yn fy helpu i ddeall sut maen nhw'n teimlo am y cymunedau maen nhw'n byw ynddynt. Edrychaf ymlaen at fwy o ddigwyddiadau yng Ngholeg Gwent ac rwy'n gobeithio gweld pobl ifanc o bob un o bum sir Gwent yn y digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid ym mis Mawrth.