Gwobrau Heddlu Gwent 2023

24ain Tachwedd 2023

Roeddem yn falch iawn i gefnogi Gwobrau'r Heddlu blynyddol Heddlu Gwent yr wythnos yma.

Cyflwynodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas, nifer o wobrau i swyddogion a gwirfoddolwyr sydd wedi mynd yr ail filltir wrth gyflawni eu dyletswydd.

Mae swyddogion a staff Heddlu Gwent yn gweithio'n ddiwyd o dan bwysau aruthrol ac amgylchiadau anodd iawn. Yn aml, mae hyn yn golygu rhoi eu hunain mewn perygl personol ac ymdrin â sefyllfaoedd na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn gorfod dod ar eu traws yn ystod eu bywydau, a diolch am hynny.

Mae Gwobrau'r Heddlu'n gyfle i ddiolch i swyddogion a staff yr heddlu am bopeth maent yn ei wneud i helpu i gadw cymunedau'n ddiogel.

Darllenwch fwy