Gweithwyr adeiladu'n dod at ei gilydd i godi sbwriel ar ystâd ddiwydiannol yng Nghwmbrân

26ain Awst 2021

Mae peirianwyr sy’n gweithio ar bencadlys newydd Heddlu Gwent yn Ystâd Ddiwydiannol Llantarnam yng Nghwmbrân wedi bod yn cadw'r ardal leol yn lân gyda nifer o sesiynau codi sbwriel o gwmpas y safle.

Cafodd y tîm o BAM Construction gymorth gan rai o'u contractwyr lleol i godi sbwriel ar hyd y strydoedd a'r ffyrdd o gwmpas yr adeilad newydd, sydd i fod i agor yn hwyrach eleni.

Pan fydd y safle newydd wedi agor bydd lle i 480 o swyddogion a staff heddlu ynddo, a bydd yn gartref i'r ystafell reoli, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau i'r heddlu, timau troseddau mawr, swyddogaethau hyfforddi, gwasanaethau cefnogi ac uwch reolwyr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: "Hoffwn ddiolch i'r tîm o BAM am helpu i gadw'r ardal leol yn lân a thaclus.

"Mae'r ffordd maent wedi gweithio i geisio lleihau effaith y gwaith adeiladu ar drigolion a busnesau lleol wedi gwneud argraff fawr arnaf, a'r ffordd maent yn talu'n ôl i'r gymuned trwy gefnogi myfyrwyr peirianneg Coleg Gwent a defnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag y bo'n bosibl."

Dywedodd Jess Morgan, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol gyda BAM Construction: “Mewn partneriaeth â Cadw Cymru'n Daclus, roedd yn bleser ymuno â FP Hurley i sicrhau bod yr ardaloedd lles a'r ardal o gwmpas y safle’n cael eu cadw'n lân a thaclus, sy'n hollbwysig i waith BAM yn darparu gwerth cymdeithasol a hybu lles lleol.”