Gweithgareddau arswydus i blant a phobl ifanc yng Nghasnewydd

27ain Hydref 2021

Mae prosiect Urban Circle, sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc a'i ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn gweithio'n galed i ddarparu cyfres o weithdai Calan Gaeaf gwych ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Casnewydd. 

 

Gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn sesiynau crefftau arswydus, tiwtorial dawns, gemau a sesiynau colur effeithiau arbennig.  

 

  • Dydd Mercher 27 Hydref, 3pm – 5pm, dros 13 oed - Canolfan Gymuned Maesglas
  • Dydd Iau 28 Hydref 2pm – 4pm, pob oedran - Canolfan Gymuned Ringland
  • Dydd Gwener 29 Hydref, 4pm - 6pm, pob oedran - Canolfan Mileniwm Pilgwenlli

 

Mae'r gweithdai wedi cael eu trefnu gan y bwrdd rheoli ieuenctid, grŵp o bobl ifanc angerddol sy'n gweithio gyda threfnwyr prosiect Urban Circle i gynllunio digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Mae aelodau o'r bwrdd rheoli ieuenctid wedi cael eu cynnwys ym mhob cam o'r broses gynllunio. Trwy hynny maen nhw wedi cael eu grymuso ac wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau newydd, o ddylunio graffeg a chyllidebu i reoli prosiect.

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae Calan Gaeaf yn gallu bod yn amser pryderus i drigolion oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol gan rai pobl ifanc - nid pob un ohonynt.

 

"Rwyf yn falch bod Urban Circle yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc i'w cadw nhw'n ddiogel rhag niwed ac oddi ar y strydoedd. Mae gweld pobl ifanc yn arwain ac yn cynllunio gweithgareddau ar gyfer eu cymheiriaid yn ysbrydoledig. Dyma enghraifft o gyfranogiad go iawn gan bobl ifanc."

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Gymunedol yr Heddlu: https://www.gwent.pcc.police.uk/en/what-we-spend/commissioning/police-community-fund/