Gweithdai Ymwybyddiaeth o Droseddau Cyllyll

1af Rhagfyr 2022

Rwyf yn eithriadol o falch bod miloedd o bobl ifanc o ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid ledled Gwent wedi cymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll a gynhaliwyd gan Fearless.org trwy gydol mis Tachwedd, i gyd-fynd ag ymweliad yr Angel Cyllyll.

 

Nod y sesiynau yw rhoi gwybod i bobl ifanc am beryglon troseddau cyllyll, pwysleisio'r brif neges nad oes unrhyw le diogel i gael eich trywanu a beth ddylid ei wneud mewn argyfwng.

 

Mae cyllid gan fy swyddfa'n helpu Fearless i ddarparu gweithdai i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy'n canolbwyntio ar broblemau y mae Heddlu Gwent a mi wedi ymroi i fynd i'r afael â nhw yng Ngwent, fel troseddau trefnedig difrifol, llinellau cyffuriau, a phwysleisio pwysigrwydd riportio troseddau.

 

Rwyf yn falch i glywed bod y sesiynau wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ysgolion, colegau a rhieni.

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://www.fearless.org/cy neu ffoniwch 0800 555 111.

 

I riportio trosedd yn ddienw: https://www.fearless.org/en/give-info