Gwaith partner i fynd i'r afael â beicio oddi ar y ffordd

17eg Mai 2023

Cefais wahoddiad yn ddiweddar i gyfarfod bord gron i drafod beicio oddi ar y ffordd.

Daeth yr heddlu, awdurdodau lleol, cymdeithas cominwyr ac aelodau seneddol lleol at ei gilydd ar gyfer y cyfarfod, a gadeiriwyd gan Aelod Senedd San Steffan Blaenau Gwent, Nick Smith.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael 1,174 adroddiad am gerbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon rhwng Mai 2022 ac Ebrill 2023. Rydym yn gwybod y bydd llawer mwy o ddigwyddiadau heb gael eu riportio.

Roedd y partneriaid yn y cyfarfod yn cydnabod bod hon yn drosedd anodd iawn ei phlismona. Mae dal reidwyr anghyfreithlon yn y fan a'r lle yn anodd dros ardaloedd mor eang o gefn gwlad a phwerau cyfyngedig sydd gan yr heddlu i gymryd camau i'w hatal.

Serch hynny, mae Heddlu Gwent yn parhau i fod yn rhagweithiol. Atafaelodd swyddogion dros 90 o feiciau oddi ar y ffordd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed hefyd i adnabod a tharfu ar sefydliadau masnachol sy'n dod â chwsmeriaid sy'n talu i'r ardal i reidio'n anghyfreithlon.

O ystyried cymhlethdod y broblem, a'r adnoddau sydd ar gael, rwyf yn hyderus bod yr heddlu'n gwneud eu gorau glas i geisio mynd i'r afael â'r drosedd hon.

Pryd bynnag rwyf yn siarad am feicio oddi ar y ffordd mae pobl yn honni ei bod yn drosedd heb ddioddefwyr. Mae'n rhaid i ni fod yn glir nad yw hynny'n wir.

Mae'n achosi anafiadau, gofid a hyd yn oed marwolaeth i anifeiliaid sy'n pori. Mae ymddygiad bygythiol rhai reidwyr yn ei gwneud yn anodd i ffermwyr wneud eu gwaith. Mae'n niweidio eu bywoliaeth.

Mae'n achosi difrod i'r amgylchedd hefyd. Mae cynefinoedd anifeiliaid gwyllt, mannau gwyrdd, llwybrau cerdded a llwybrau beicio'n cael eu dinistrio. Ceir mwy o berygl o lifogydd wrth i amddiffynfeydd naturiol gael eu dinistrio.

Mae defnyddwyr arferol y ffyrdd a cherddwyr yn cael eu rhoi mewn perygl gan reidio diofal hefyd. Mae llawer o'r cerbydau hyn heb dreth, heb yswiriant ac ni ddylent fod ar y ffyrdd.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r drosedd hon. Ond er mwyn gallu gweithredu'n effeithiol mae'r heddlu angen i bobl riportio digwyddiadau.

Gallwch riportio'n ddienw wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, neu ar dudalen Facebook a Twitter Heddlu Gwent. Gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers hefyd ar 0800 555 111.

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.