George Floyd - blwyddyn yn ddiweddarach

25ain Mai 2021

Cafodd llofruddiaeth George Floyd flwyddyn yn ôl effaith ysgytiol ar draws y byd.

Gwaith yr heddlu yw amddiffyn a gwasanaethu eu cymunedau. Roedd hwn yn fethiant difrifol o ran plismona.

Mae llofrudd Mr Floyd wedi cael ei ddwyn o flaen y llysoedd erbyn hyn ond mae ymddiriedaeth mewn plismona wedi dioddef.

Mae effeithiau'r cyfyngiadau cymdeithasol a roddwyd ar waith i fynd i'r afael â phandemig Covid 19 wedi dwysáu gwahaniaethau gwleidyddol, yn ogystal â phryderon cymdeithasol ac economaidd.

Mae hyn wedi cael effaith anghymesur ar ein cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig yng Ngwent.

Roeddwn yn falch o blygu glin i gefnogi’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys a gododd yn dilyn marwolaeth George Floyd ac rwyf wedi ymroi i ailadeiladu'r ymddiriedaeth gyda'n cymunedau.

Ar y cyd â'r Prif Gwnstabl, hoffwn sicrhau ein cymunedau y bydd unrhyw un sy'n ymwneud â'r heddlu yng Ngwent yn cael ei drin yn gyfartal, yn deg a gyda pharch.

Ni fydd casineb, ar unrhyw ffurf, yn cael ei oddef yma.

Un o'r pethau cadarnhaol yn sgil y pandemig yw ein bod mewn cysylltiad mwy rheolaidd gyda'n cymunedau yn awr.

Mae galwadau ffôn yn digwydd yn wythnosol rhwng yr heddlu, fy swyddfa i, partneriaid a'r gymuned ac maent yn fforymau pwysig ar gyfer rhannu gwybodaeth a magu perthynas.

Mae'r rhain wedi arwain at sgyrsiau hynod o werthfawr, rhai ohonynt yn heriol, ond  rydym oll yn gytûn ein bod eisiau'r canlyniadau gorau posibl i'n cymunedau.

Rwyf yn hyderus ein bod, ar y cyd â'r Prif Gwnstabl Pam Kelly a'i thîm yn Heddlu Gwent, yn hybu newid mewn diwylliant sy'n rhoi lleisiau ein cymunedau wrth galon ein prosesau, ein polisïau a'n penderfyniadau.

Rhaid i ni gofio ein bod yn well gyda'n gilydd, a thrwy ddysgu gwersi'r gorffennol byddwn yn creu dyfodol gwell.