Genedlaethol Dangos Parch at Weithwyr Siopau

18fed Tachwedd 2020

Mae'n Wythnos Genedlaethol Dangos Parch at Weithwyr Siopau

Croesawais y cyfle i glywed profiadau agored a gonest staff manwerthu o bob rhan o Gymru sydd wedi dioddef digwyddiadau annerbyniol wrth wneud eu gwaith. Mae'n amlwg bod llawer o staff manwerthu ledled Cymru yn ofni sarhad, dwyn ac ymosodiad yn ddyddiol.

Amlygwyd y ffaith bod trais a sarhad tuag at staff siopau wedi cynyddu'n sylweddol ers dechrau'r pandemig. Yn anffodus mae mesurau i fynd i'r afael â'r feirws, fel cyfyngiadau ychwanegol ar werthiant alcohol a'r angen i wisgo mygydau, wedi arwain at fwy o broblemau i weithwyr manwerthu.

Roedd yn frawychus i mi glywed am ddigwyddiadau yng Nghymru lle mae staff wedi cael pobl yn poeri arnynt, sy'n gwbl annerbyniol. Ni fyddwn yn goddef sarhau gweithwyr manwerthu.

Mae Heddlu Gwent wedi ymroi i weithio gyda siopwyr ar draws y sir a byddant yn parhau i ymateb i bob digwyddiad sy'n cael ei riportio.

Gofynnaf ar unrhyw un sydd wedi cael ei fygwth, neu sydd wedi dioddef trais yn y gwaith i'w riportio.