Ffurflenni Cydsynio i Dystiolaeth Ddigidol
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi mynegi pryder y bydd defnydd cyffredinol o ffurflenni cydsynio i dystiolaeth ddigidol yn atal rhai dioddefwyr troseddau rhag codi llais.
Lansiwyd ffurflenni cydsynio i dystiolaeth ddigidol ar draws y DU ym mis Ionawr er mwyn creu dull cyffredin i swyddogion heddlu ofyn am fynediad at ddata ffôn symudol gan bobl sy’n honni eu bod wedi cael eu treisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol a throseddau eraill.
Cafodd y ffurflenni eu llunio'n wreiddiol i sicrhau dull cyffredin o ymchwilio, yn dilyn cwymp cyfres o achosion llys pobl ar gyhuddiad o dreisio lle nad oedd tystiolaeth ddigidol hollbwysig wedi cael ei datgelu i ddiffynyddion a'u cyfreithwyr.
Dywedodd Mr Cuthbert: “Mae hwn yn fater cynhennus iawn, gan fod dyletswydd arnom ni i fod yn gytbwys a sicrhau achos teg gan amddiffyn pobl pan fyddan nhw’n teimlo’n fwyaf bregus ar yr un pryd.
" Rydym yn gwybod mai’r rhwystr mwyaf i ddioddefwyr yw’r ofn na fydd pobl yn eu credu. Mae hyn yn aml yn sbarduno pobl i feio eu hunain; sy’n ymateb dealladwy ond un gwenwynig ar adeg pan mae angen cymorth ar bobl fwy nac erioed.
“Mae dioddefwyr eisoes yn teimlo'n ddiamddiffyn a bregus iawn yn dilyn unrhyw fath o gam-drin rhywiol. Mae'r ffurflenni cydsynio i dystiolaeth ddigidol yn rhoi mynediad i ymchwilwyr at bopeth sydd ar ffôn symudol rhywun, boed yn berthnasol i achos teg neu beidio. Mewn oes sy'n gynyddol ddigidol, mae'n gwbl ddealladwy bod hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i ddioddefwyr godi llais, gan wybod y gall rhywun graffu ar bob agwedd ar eu bywydau.
"Er bod y ffurflenni cydsynio i dystiolaeth ddigidol yn syml mewn egwyddor, maen nhw'n peri rhwystr anferthol i ddioddefwyr. Pan fyddan nhw'n fwyaf diamddiffyn, gofynnir iddyn nhw roi hawl i rywun arall edrych trwy bopeth sy'n breifat yn eu bywydau. Felly, er fy mod yn deall ac yn gwerthfawrogi'r rheswm y tu ôl i'r ffurflenni, rwy'n credu bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i'r defnydd ohonynt."