Edrych ymlaen at gyflwyno 20mya yng Ngwent

31ain Mai 2023

Ar 17 Medi 2023 bydd terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd lle mae pobl yn byw, gweithio a chwarae ledled Cymru.

Bydd y newidiadau'n digwydd ar ffyrdd gyda goleuadau stryd dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Fel arfer mae'r rhain i'w gweld mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig.

Mae Llywodraeth Cymru'n newid y terfyn cyflymder diofyn er mwyn gwneud strydoedd yn saffach. Disgwylir i derfyn 20mya leihau'r tebygrwydd o wrthdrawiadau a'r perygl o anaf neu farwolaeth.

Nid yw'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd pob ffordd yn newid i 20mya. Bydd y terfyn yn aros ar 30mya ar rai ffyrdd a bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa rai fydd yn cadw eu terfyn cyflymder presennol.

Yn ôl astudiaeth iechyd y cyhoedd a gynhaliwyd yng Nghymru, gallai'r terfyn cyflymder diofyn 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • Achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
  • Osgoi 1200 i 2000 o anafusion bob blwyddyn.

Meddai'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Lee Waters: "Mae'r dystiolaeth o bedwar ban byd yn glir - mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae cyflymder arafach yn helpu i greu cymuned saffach a mwy croesawgar hefyd, gan roi hyder i bobl gerdded a seiclo mwy, gan wella eu hiechyd a lles a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd.”

Gallwch ddysgu mwy am 20mya ar wefan Llywodraeth Cymru.