Diwrnod Rhuban Gwyn 2022
Rydym yn gofyn i drigolion ledled Gwent gymryd rhan a chefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Gwener 25 Tachwedd.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig.
Bob wythnos yng Ngwent, mae 33 o fenywod mewn perygl difrifol oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Eleni rydym yn gofyn i drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol gymryd rhan yn #Her33 i godi ymwybyddiaeth o'r ffigwr dychrynllyd hwn.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ddinistriol mae trais gan yn erbyn menywod yn gallu ei gael, nid yn unig ar unigolion ond ar eu teuluoedd hefyd.
"Eleni rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn #Her33 i godi ymwybyddiaeth o'r nifer o fenywod sy'n byw mewn sefyllfaoedd o berygl dybryd bob wythnos oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol.
"Mae angen eich help chi arnom ni ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn i annog pobl eraill i gymryd safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod a gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth i godi llais a cheisio cymorth.
“Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.”
Mae #Her33 yn cael ei gynnal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol VAWDASV Gwent, cydweithrediad amlasiantaeth sy’n gweithio ledled Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gall pobl, teuluoedd, ysgolion, sefydliadau, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol greu eu heriau eu hunain yn canolbwyntio ar y rhif 33 a gofynnir iddynt bostio eu gweithgareddau cefnogi ar-lein.
Mae'n cael cefnogaeth gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a Heddlu Gwent.
Meddai Prif Gwnstabl Pam Kelly “Mae unrhyw ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched yn annerbyniol ac rydyn ni, yn Heddlu Gwent, wedi ymroi i feithrin cymunedau mwy diogel trwy fynd i’r afael a’r broblem a sicrhau ein bod yn cael y canlyniad gorau i’n dioddefwyr.
“Mae gwneud y cysylltiad cyntaf yn gallu bod yn anodd ond gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy’n credu eu bod yn dioddef y drosedd hon i ddweud wrthym ni, gan wybod y byddwn yn eu cefnogi nhw ac yn eu trin nhw gyda gofal a pharch. Mae dyletswydd ar bawb i sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw drais ac, wrth gwrs, trais yn erbyn menywod a merched.”
Gellir lawrlwytho pecyn cefnogi ar-lein yma https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/partneriaethau/diwrnod-rhuban-gwyn-2022/ mae'n cynnwys syniadau am heriau, a chynnwys posibl ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Gall busnesau a sefydliadau ddangos eu cefnogaeth barhaol hefyd trwy annog eu staff i gofrestru ar gyfer hyfforddiant, fel eu bod yn gallu adnabod arwyddion cam-drin domestig a deall pa gymorth sydd ar gael.
Meddai Amy Thomas, Prif Ymgynghorydd Rhanbarthol VAWDASV Gwent: "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn a'r 16 diwrnod o weithredu sy'n dilyn, yn galluogi pawb i wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod.
"Sbardunodd llofruddiaethau Sarah Everard a Sabia Nessa yn 2021 drafodaeth genedlaethol am ddiogelwch menywod a safodd y cyhoedd yn gadarn i gondemnio trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod. Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau adfer ar ôl pandemig Covid, rydym yn deall yn awr bod cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol nid yn unig wedi creu llen i guddio trais domestig ond hefyd wedi lleihau gallu dioddefwyr i chwilio am gymorth, felly mae amddiffyn menywod wedi dod yn fwy heriol nac erioed.
“Wrth godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhuban Gwyn trwy chwaraeon a digwyddiadau chwaraeon, rydym yn ceisio cael pawb i chwarae eu rhan yn dysgu am anghydraddoldeb a thrais rhwng y rhywiau ac ymroi i gymryd camau gweithredu i greu newid ynddyn nhw eu hunain ac yn eu cymunedau.
Mae llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn am ddim ac mae ar gael i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gamdriniaeth.
Mae'n cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a'r bobl sy'n agos atynt. Ffoniwch 0808 8010 800 neu anfonwch neges destun: 078600 77333.
Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.
I riportio digwyddiad ffoniwch 101 neu anfonwch neges at sianeli cyfryngau cymdeithasol @heddlugwent.