Diwrnod Rhuban Gwyn 2022
Dydd Iau 25 Tachwedd yw Diwrnod Rhuban Gwyn eleni ac mae angen eich help chi arnom ni.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod.
Mae digwyddiadau cam-drin domestig yn effeithio ar filoedd o fenywod a'u teuluoedd ac, mewn llawer o achosion, mae cyfyngiadau symud wedi gwneud y sefyllfa hon yn waeth. Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith negyddol ar blant sy'n ei brofi, a heb ymyrraeth gynnar a chefnogaeth, mae'r profiadau hyn yn gallu effeithio arnyn nhw drwy gydol eu bywydau.
#Her33
Bydd #Her33 yn digwydd ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, dydd Iau 25 Tachwedd 2022, a'i nod yw dod â chymunedau at ei gilydd i ddileu trais yn erbyn menywod.
Bob wythnos yng Ngwent, mae 33 o fenywod mewn perygl difrifol oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Mae llawer o sefydliadau ledled Gwent sydd wedi ymroi i adnabod ac ymateb i gam-drin domestig. Os nodir bod unigolyn mewn perygl mawr o niwed difrifol neu o gael ei ladd, bydd yn cael ei drafod mewn cynhadledd asesu risg amlasiantaeth (MARAC) i'w amddiffyn rhag niwed.
Mae MARAC yn dwyn amrywiaeth o sefydliadau at ei gilydd i gynnig cymorth a chefnogaeth arbenigol, gan gynnwys yr heddlu, iechyd, amddiffyn plant, tai, cynghorwyr annibynnol ar drais domestig, y gwasanaeth prawf ac arbenigwyr eraill o'r sectorau statudol a gwirfoddol.
Bydd y MARAC yn cysylltu ag asiantaethau eraill hefyd i amddiffyn unrhyw blant a rheoli ymddygiad y tramgwyddwr. Nid yw'r dioddefwr yn bresennol yn y cyfarfod ond caiff ei gynrychioli gan gynghorydd annibynnol ar drais domestig a fydd yn siarad ar ei ran.
Ar ôl i chi gwblhau’r her, gofynnwn i chi ei rhannu ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cynnwys @GwentVAWDASV @GwentPCC ac @HeddluGwent yn y negeseuon a defnyddio'r hashnodau #GwentWRD2022 #Her33.
Cyfryngau Cymdeithasol
1. Rydym wedi creu rhai negeseuon i chi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Bob wythnos yng Ngwent, mae 33 o fenywod mewn perygl difrifol oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol. Dangoswch eich cefnogaeth i ddileu trais yn erbyn menywod a merched trwy wneud #GwentWRD2022 #Her33
2. Rwyf i’n addo cefnogi pob ymdrech i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. #GwentWRD2022 #Her33
3. Rwyf i wedi cwblhau #Her33 #GwentWRD2022 Rwyf i’n addo cefnogi pob ymdrech i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. @GwentVAWDASV @GwentPCC @HeddluGwent
Os ydych chi'n pryderu amdanoch chi eich hun neu am rywun rydych yn ei adnabod, mae help ar gael gan www.livefearfree.gov.wales a all eich rhoi chi mewn cysylltiad â darparwr cymorth arbenigol lleol.