Diwrnod Rhuban Gwyn 2021

8fed Tachwedd 2021

Rydym yn gofyn i drigolion ledled Gwent gymryd rhan a chefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Iau 25 Tachwedd.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig. 

Eleni, rydym yn gofyn i drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol ymrwymo i'r #Her30 i godi ymwybyddiaeth o'r 30 plentyn yng Ngwent sy'n cael eu heffeithio bob dydd gan ddigwyddiadau o gam-drin domestig yn y cartref lle mae'r heddlu wedi cael eu galw. Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf, gan gynnwys corfforol, rheolaeth drwy orfodaeth, cam-drin seicolegol a cham-drin ariannol.

Daw'r ffigwr hwn o Ymgyrch Encompass, sy'n galluogi'r heddlu i hysbysu ysgolion am unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd wedi bod yn rhan o ddigwyddiad o drais domestig yn y cartref, gan alluogi'r ysgol i sicrhau bod y cymorth a'r gefnogaeth briodol ar gael. 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ddinistriol mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn gallu ei gael, nid yn unig ar unigolion ond ar eu teuluoedd hefyd.

"Eleni rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn #Her30 i godi ymwybyddiaeth o faint yn union o blant a phobl ifanc sy'n dystion diniwed i ddigwyddiadau cam-drin domestig.

“Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod yn cefnogi ac annog pobl eraill i godi llais yn erbyn trais yn erbyn menywod ac annog unrhyw un sy'n dioddef cam-drin i ddweud wrth rywun a cheisio cymorth. Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.”

Mae #Her30 yn cael ei gynnal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol VAWDASV Gwent, cydweithrediad amlasiantaeth sy’n gweithio ledled Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n cael cefnogaeth gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a Heddlu Gwent.

Gallai #Her30 fod yn rhywbeth rydych yn ei wneud ar eich pen eich hun, gyda phobl o’r un aelwyd â chi, neu yn rhan o grŵp (cofiwch gadw at gyfyngiadau Covid 19 cyfredol).

Gall pobl, teuluoedd, ysgolion, sefydliadau, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol greu eu heriau eu hunain yn canolbwyntio ar y rhif 30 a gofynnir iddynt bostio eu gweithgareddau cefnogi ar-lein.

Mae gweithdai addysgol a chynlluniau gwersi'n cael eu cyflwyno i ysgolion ledled Gwent i godi ymwybyddiaeth o berthynas iach ymysg plant a phobl ifanc. 

Gellid cynnal yr her ar 25 Tachwedd neu unrhyw bryd yn ystod yr 16 diwrnod o weithredu sy’n gorffen ar 10 Rhagfyr.

Meddai Prif Gwnstabl Pam Kelly:

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i ddileu trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched.

“Mae cam-drin domestig, a throseddau eraill tebyg, yn cael effaith barhaol ar oroeswyr, ond mae hefyd yn effeithio ar y rhai sy’n dyst i’r ymddygiad hwn.

“Mae hyn yn cael mwy o effaith fyth ar blant. 

“Trwy sefyll yn gadarn yn erbyn trais mae pob un ohonom yn amddiffyn menywod a phlant ac rydym hefyd yn sicrhau y bydd cenhedlaeth y dyfodol yn tyfu i fyny mewn byd lle mae dangos parch tuag at bobl eraill yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd yn gwbl ganiataol.

“Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef cam-drin domestig, dewch i siarad â ni.

“Rydym yma i’ch helpu chi”.

Gellir lawrlwytho pecyn cefnogi ar-lein yma -https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/partneriaethau/diwrnod-rhuban-gwyn-2021/  ac mae'n cynnwys syniadau am heriau, a chynnwys posibl ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gall busnesau a sefydliadau ddangos eu cefnogaeth barhaol hefyd trwy annog eu staff i gofrestru ar gyfer hyfforddiant, fel eu bod yn gallu adnabod arwyddion cam-drin domestig a deall pa gymorth sydd ar gael.

Meddai Janice Dent, prif ymgynghorydd rhanbarthol VAWDASV Gwent:  "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn a'r 16 diwrnod o weithredu sy'n dilyn, yn galluogi pawb i wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod.

"Nawr yn fwy nag erioed, mae dyhead cryf i herio a chodi llais am drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched. Mae angen i bob un ohonom godi llais a chondemnio pob ffurf ar drais a chamdriniaeth yn erbyn pawb yn ein cymdeithas. Mae angen newid diwylliannol er mwyn gwneud hyn ac rwy'n argyhoeddedig bod y newid hwn yn dechrau gyda dysgu ein plant a'n pobl ifanc.

“Trwy gael plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn yr ymgyrch hwn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o berthynas iach yn ifanc iawn, a hyrwyddo'r amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth sydd gennym yng Ngwent i gefnogi unrhyw un sy'n cael ei effeithio neu unrhyw un sy’n pryderu am ei ymddygiad ei hun neu ymddygiad pobl eraill.

"Er mwyn dileu cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod mae angen dull system gyfan ar gyfer newid agweddau ac ymddygiad, nid ar gyfer yr 16 diwrnod hyn yn unig."

Mae llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn am ddim ac mae ar gael i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gamdriniaeth. Mae'n cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a'r bobl sy'n agos atynt. Ffoniwch 0808 8010 800 neu anfonwch neges destun: 078600 77333.

Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng. I riportio digwyddiad ffoniwch 101 neu anfonwch neges at sianeli cyfryngau cymdeithasol @heddlugwent.