Diwrnod Cenedlaethol Coffau'r Heddlu
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi rhoi teyrnged i swyddogion heddlu sydd wedi cael eu lladd neu wedi colli eu bywydau tra ar ddyletswydd.
Ymunodd y Comisiynydd â swyddogion a staff Heddlu Gwent mewn gwasanaeth coffa ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân cyn Diwrnod Cenedlaethol Coffau'r Heddlu ddydd Sul 29 Medi.
Sefydlwyd Diwrnod Cenedlaethol Coffau'r Heddlu yn dilyn marwolaeth Jon Odell yn 2000 a oedd yn swyddog Heddlu Caint. Mae'r digwyddiad blynyddol yn gyfle i gofio swyddogion heddlu sydd wedi colli eu bywydau, ond mae hefyd yn cydnabod ymroddiad a dewrder swyddogion heddlu ledled y DU.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae hwn yn gyfle i ni gofio'r swyddogion hynny, yma yng Ngwent ond hefyd ledled y wlad, sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu eu cymunedau.
“Bob dydd mae'n rhaid i'n swyddogion ddelio â sefyllfaoedd na fydd y rhan fwyaf ohonom yn gorfod eu profi yn ystod ein hoes. Maen nhw'n gwneud hyn i'n hamddiffyn ni ac i'n cadw ni'n ddiogel, ac ni ddylem fyth anghofio'r peryglon y maent yn eu hwynebu fel nad oes rhaid i ni wneud hynny.
“Hoffwn dalu teyrnged i holl swyddogion heddlu y gorffennol a’r rhai presennol, a diolch iddynt am eu gwasanaeth."