Dathlu llwyddiant pobl ifanc ym Mrynmawr

31ain Awst 2022

Yr wythnos hon cefais y fraint o gael gwahoddiad gan Glwb Rotari Brynmawr i ddathlu llwyddiant pobl ifanc sydd wedi bod yn gweithio er budd eu cymuned.

Mae'r bobl ifanc yn rhan o grwpiau rhyngweithio Bryn Farm a Choed Cae sy'n derbyn cyllid gan fy swyddfa. Maen nhw'n cael cefnogaeth i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau - coginio, casglu sbwriel a digwyddiadau yn y gymuned - ac maen nhw'n ennill cymwysterau a sgiliau a fydd yn eu helpu nhw yn y dyfodol.

Yn ogystal â chefnogi pobl ifanc mae'r prosiect yn helpu eu teuluoedd hefyd, trwy redeg banc bwyd, cegin gymunedol a chynnig cymorth i bobl mewn angen.

Mae'r prosiect hwn, y tîm sy'n gyfrifol amdano a'r bobl ifanc sy'n rhan ohono, yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned hon a hoffwn eu canmol am eu gwaith caled.