Dathlu llwyddiant gydag Academi Cymheiriaid Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS)

16eg Chwefror 2023

Dydd Llun cefais y fraint o gael gwahoddiad i seremoni graddio ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau cynllun Academi Cymheiriaid Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS).

Mae'r Academi Cymheiriaid yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i bobl sy'n byw gyda phrofiad o ddefnyddio sylweddau. Ei nod yw meithrin sgiliau a hyder a'u galluogi nhw i wirfoddoli mewn amrywiaeth eang o rolau yn y sector cyffuriau ac alcohol, gan helpu pobl sydd wedi cael profiadau tebyg.

Ers 2014 mae fy swyddfa wedi buddsoddi dros £800,000 y flwyddyn yn GDAS, sy'n gonsortiwm o Kaleidoscope, Barod a G4S. Mae'r gwasanaeth yn rhoi cyngor a chymorth wedi'i dargedu i ddefnyddwyr alcohol a chyffuriau, eu teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol a all fod yn ymdrin â phobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol. Mae'n enghraifft wych o wasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth i fynd i'r afael â defnydd sylweddau sy'n gallu effeithio ar bobl o bob cefndir.

Roedd yn fraint dathlu gwaith caled a phenderfyniad y rhai oedd yn cwblhau eu cwrs gyda'r Academi Cymheiriaid a dymunaf bob hwyl iddynt yn y dyfodol.