Cynllun allgymorth i bobl ifanc yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghwmbrân

12fed Mai 2023

Mae cynllun allgymorth newydd i bobl ifanc yn helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghwmbrân.

Mae gweithwyr ieuenctid o Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn targedu mannau lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem i ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog nhw i fynd i'r ganolfan yn hytrach na hongian o gwmpas canolfannau siopa ac ardaloedd cyhoeddus eraill.

Maen nhw'n cael cynnig bwyd am ddim a chyfle i gymdeithasu gyda'u ffrindiau mewn amgylchedd diogel.

Erbyn hyn mae'r ganolfan yn derbyn dros 700 o ymweliadau gan bobl ifanc bob mis, ac mae busnesau lleol a'r heddlu'n dweud bod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau.

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu trwy gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref ac mae'n bartneriaeth rhwng Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, Heddlu Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Meddai Kieran Saunders, gweithiwr cefnogi ieuenctid yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân: "Nid yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn bwriadu achosi problemau, y cyfan maen nhw eisiau ydi rhywle y gallan nhw fynd gyda'u ffrindiau.

"Rydyn ni'n teithio i ardaloedd lle mae problemau, siarad gyda'r bobl ifanc a'u hannog nhw i ddod draw i'r ganolfan. Pan maen nhw yna, gallwn ni edrych ar eu holau nhw, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n iawn a chynnig cefnogaeth iddyn nhw os ydyn nhw ei angen.

"Rydyn ni wedi cael ymateb ardderchog, gan y bobl ifanc, trigolion a busnesau lleol, ac mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned."

Mae pobl ifanc wedi bod yn ymateb yn dda i'r cynllun.

Dywedodd Natasha: "Dwi'n hoffi dod i'r Ganolfan achos mae'n hwyl ac mae'r staff yn anhygoel. Dwi'n hoffi dod yma achos mae'n cadw fi mas o drwbl. Dwi'n dod yma bob nos nawr achos mae'n cadw fi oddi ar y strydoedd."

Dywedodd Ash: "Dwi'n hoffi dod i'r Ganolfan achos mae'n lle diogel i ddod gyda fy ffrindiau. Mae'r staff yn gefnogol a bob amser yn awyddus i helpu. Os na fydden i'n gallu dod i'r Ganolfan mae'n siŵr y byddwn i'n potsian o gwmpas gyda fy ffrindiau ar y strydoedd neu ar ben fy hun yn fy ystafell heb ddim byd i'w wneud.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n arwain y cynllun.

Meddai Paul Jones, aelod gweithredol dros lywodraethu corfforaethol a pherfformiad yng Nghyngor Torfaen: "Trwy lunio partneriaeth gyda gweithwyr ieuenctid mae'r bobl ifanc yn eu hadnabod yn dda ac yn ymddiried ynddynt rydym yn ymgysylltu â'r grwpiau hynny sy'n gyfrifol am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cynnig rhywbeth mwy cadarnhaol iddynt ei wneud gyda'u hamser. Rydym yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y fan a'r lle, ond hefyd rydym yn helpu i ddiogelu'r bobl ifanc hyn, eu cadw nhw allan o drwbl a gyda lwc rydym yn eu rhoi nhw ar lwybr gwell ar gyfer y dyfodol."

Mae arian y gronfa Strydoedd Saffach yn cael ei ddyrannu i gomisiynwyr yr heddlu a throsedd i gefnogi gwaith partner rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar gyfer prosiectau sy'n cadw cymunedau'n ddiogel.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Dyma enghraifft wych o blismona, yr awdurdod lleol a'r sector elusennau'n gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cadw pobl yn ddiogel, a chreu gwell cyfleoedd i bobl ifanc."