Cyllid Strydoedd Saffach yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent

28ain Chwefror 2023

Mae arian o gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid ym Mrynmawr a Thredegar i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd gweithiwr ieuenctid pwrpasol yn cael ei benodi i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael eu riportio, ac mae lloches bwrpasol ar gyfer pobl ifanc wedi cael ei hadeiladu ym Mharc Lles Brynmawr.

Yn rhan o'r cais am gyllid, ymgynghorwyd gyda phobl ifanc o Frynmawr a ddywedodd y byddent yn teimlo'n fwy diogel pe bai ganddyn nhw le pwrpasol iddyn nhw eu hunain i fynd iddo. Gwnaethant helpu i ddylunio'r lloches a fydd yn bwynt canolog ar gyfer gwaith allgymorth gyda phobl ifanc yn yr ardal.

Meddai Arolygydd Stevie Warden: "Rydym wedi gwrando ar y bobl ifanc yn yr ardaloedd yma, ac ar y gymuned ehangach. Mae'r cyllid gan y Swyddfa Gartref yn ein galluogi ni i fuddsoddi mewn ardaloedd allweddol, cefnogi plant a phobl ifanc gyda gweithiwr ieuenctid penodol, a chreu lloches bwrpasol i fod yn fan canolog lle gall ein swyddogion a phartneriaid ddarparu cymorth.

“Mae'n ein galluogi ni i barhau ein gwaith partner cadarn gyda'r cyngor a grwpiau cymunedol ym Mlaenau Gwent, yn helpu i wneud ein strydoedd yn fwy diogel i bawb.”


Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.

Meddai Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Blaenau Gwent dros Bobl ac Addysg: “Rydym wedi gwrando ar beth mae pobl ifanc yn yr ardal eisiau ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gweithio gyda phartneriaid i gael cyllid ar gyfer y cyfleuster hwn sy'n arbennig ar gyfer pobl ifanc a lle gallan nhw deimlo'n ddiogel. Mae gwaith ieuenctid yn fwy na chlybiau yn unig, mae ein gweithwyr ieuenctid yn gwneud gwaith allgymorth gwych, yn mynd allan yn y gymuned ac ymgysylltu â phobl ifanc i gynnig amrywiaeth o weithgareddau a chefnogaeth iddyn nhw. Da iawn pawb sydd ynghlwm â'r fenter hon.”

Mae'r cyllid yn rhan o gronfa fwy o £750,000 sy'n cael ei defnyddio i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngwent. Yn rhan o'r prosiect Strydoedd Saffach, mae Heddlu Gwent wedi gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol i wella offer CCTV mewn ardaloedd allweddol, gweithio gyda busnesau lleol i wella diogelwch safleoedd, a pharhau i weithio ar raglenni allgymorth ieuenctid yn Alway, Coed-duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae'r cyllid o'r ymgyrch Strydoedd Saffach yn ein galluogi ni i ddarparu mentrau atal trosedd pwrpasol yn y cymunedau sydd eu hangen nhw fwyaf. Mae misoedd lawer o waith partner rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi arwain at hyn ac rwyf yn falch i weld ei fod yn dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.”