Cyllid ar gael ar gyfer mentrau diogelwch cymunedol yng Ngwent

4ydd Tachwedd 2020

Mae Cronfa Uchel Siryf Gwent ar agor ar gyfer ceisiadau.

Gall grwpiau ymgeisio am grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer prosiectau sy'n helpu i leihau trosedd a gwella diogelwch yn eu cymuned.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis mewn digwyddiad cyfranogol sy'n galluogi pobl leol i benderfynu pa fentrau fyddai'n rhoi'r sylw gorau i broblemau lleol.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cyfrannu £60,000 i'r gronfa.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Rwyf wedi ymroi yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

"Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau cymunedol gael arian ar gyfer prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn gwella diogelwch yn eu hardal."

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12pm dydd Llun 23 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru