Cyflwyno carreg goffa

7fed Hydref 2022

Heddiw cynhaliwyd gwasanaeth byr i osod carreg goffa yn ffurfiol y tu allan i bencadlys newydd Heddlu Gwent.

Mae'r garreg yn fan i fyfyrio i gofio'r swyddogion a'r staff hynny nad ydyn nhw gyda ni erbyn hyn.  

Roedd hefyd yn gyfle i ddiolch i bob heddwas, o’r gorffennol a’r presennol, am eu gwasanaeth ac am bopeth maen nhw'n ei wneud i'n cadw ni'n ddiogel.