Contractwyr sy'n adeiladu gorsaf heddlu yn hyfforddi peirianwyr y dyfodol

3ydd Tachwedd 2023

Mae plant ysgol yn Y Fenni wedi bod yn chwarae rôl peirianwyr am ddiwrnod.

Gweithiodd staff o Willmott Dixon, y cwmni sy'n adeiladau cyfleuster newydd yr heddlu yn Y Fenni, ochr yn ochr â disgyblion ysgolion cynradd Llan-ffwyst Fawr a Llanfihangel Crucornau i ddylunio ac adeiladu tetrahedronau anferth - pyramidiau triongl.

Meddai Nicola Millard, o Willmott Dixon: "Roedd yn wych gweld y plant yn mwynhau'r sesiwn yn fawr, yn cyfrannu ac yn cael llawer o hwyl.

"Pan fyddwn ni'n ymgymryd â phrosiect yn Willmott Dixon, fel rhan o'n hymrwymiad i werth cymdeithasol rydyn ni'n ymweld ag ysgolion lleol ac yn rhoi cyfle i blant ddysgu sgiliau newydd gan aelodau o'n tîm profiadol. Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a gobeithio y bydd rhai o'r plant yma'n mynd ymlaen i fod yn beirianwyr y dyfodol."

Bu'n rhaid i'r plant ddefnyddio sgiliau gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg i gwblhau'r prosiect, ac mae'r rhain yn sgiliau hollbwysig ar gyfer gyrfa mewn peirianneg.

Croesawodd pennaeth gweithredol y ddwy ysgol, Stewart Davies, yr ymweliad. Dywedodd: "Roedd y sesiynau'n ddifyr iawn a chyfrannodd y disgyblion atyn nhw'n frwdfrydig iawn. Croesawodd pawb yr her o greu'r tetrahedronau, gan ddysgu gwersi gwerthfawr am waith tîm ac arweinyddiaeth yn ystod y dydd."


Mae adeilad newydd Heddlu Gwent yn Llan-ffwyst i fod i agor yn y gwanwyn yn 2024 a bydd yn gartref i dimau plismona cymdogaeth ac ymateb.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae'r gweithdai i blant yn ffordd wych i blant gael hwyl a dysgu sgiliau hanfodol, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli rhai o'r plant yma i fynd yn eu blaenau i gael gyrfa lwyddiannus yn y maes peirianneg.

"Rwyf yn falch iawn ein bod yn darparu'r cyfleuster newydd yma ac mae'r gweithdai'n ffordd ddelfrydol o gynnwys aelodau ieuengaf y gymuned yn y prosiect."