Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n croesawu cyllid i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol

20fed Mai 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu buddsoddiad o £644,446 gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder i roi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pedwar Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol a phedwar Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig i weithio ledled Gwent am ddwy flynedd.

Mae cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol a chynghorwyr annibynnol ar drais domestig yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr.

Mae cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol yn gweithio gyda menywod, dynion a phlant dros 13 oed sydd wedi dioddef treisio, trais rhywiol neu gam-drin rhywiol yn ystod plentyndod. Mae cynghorwyr annibynnol ar drais domestig yn gweithio gydag unrhyw un sydd mewn perygl mawr o niwed gan bartner, cyn bartner neu aelod o'r teulu.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf wedi ymroi i gefnogi dioddefwyr trosedd, yn arbennig y bobl sydd wedi dioddef y niwed mwyaf difrifol.

"Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ehangu gwasanaethau cymorth yng Ngwent, gan helpu i sicrhau bod cymorth ar gael i'r bobl sydd ei angen fwyaf.



Mae'r gwasanaethau canlynol yn cynnig gwasanaethau cymorth arbenigol i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

BAWSO: Darparu gwasanaethau cymorth arbenigol i drigolion du a lleiafrifoedd ethnig.
Gwefan: https://bawso.org.uk/contact/
Ffôn: 08007318147

Connect Gwent: Cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Nid oes rhaid i chi fod wedi riportio'r drosedd hon i'r heddlu i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
 Gwefan:  www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent
Ffôn: 0300 123 2133

Cymorth i Fenywod Cyfannol: Darparu gwasanaethau cymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gwefan: https://cyfannol.org.uk
Ffôn: 01495 742052

Byw Heb Ofn: Llinell gymorth am ddim Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ddioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Gwefan: https://gov.wales/live-fear-free
Ffôn: 0808 8010 800.

Llwybrau Newydd: Darparu gwasanaethau cymorth i oedolion a phlant sydd wedi dioddef treisio a cham-drin rhywiol.
Gwefan: www.newpathways.org.uk
Ffôn: 01685 379 310

Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.