Comisiynydd yn galw ar bobl i fod yn ymwybodol o sbeicio

20fed Medi 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn galw ar drigolion i fod yn ymwybodol a gwyliadwrus o beryglon sbeicio.

Sbeicio yw pan fydd rhywun yn rhoi alcohol neu gyffuriau i mewn i ddiod, bwyd neu gorff rhywun arall heb eu caniatâd na'u gwybodaeth. Gall adael dioddefwyr yn agored i droseddau eraill fel ymosodiad rhywiol neu ladrad, a hefyd gael effeithiau hirdymor ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Daw'r alwad yn ystod Wythnos Dwysáu Ymdrechion i Daclo Sbeicio, sy'n gydlyniad cenedlaethol o weithredu gan yr heddlu i fynd i'r afael â sbeicio yn economi'r nos. Yn ystod yr wythnos bydd mwy o batrolau mewn ardaloedd myfyrwyr a phartneriaethau â lleoliadau trwyddedig.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Gall sbeicio o unrhyw fath gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol a meddyliol y dioddefwr. Gall fod yn ffordd i ddrwgweithredwyr gyflawni troseddau mwy difrifol a gall ddifetha bywydau.

“Mae adroddiadau o sbeicio yn parhau i fod yn isel yng Ngwent, fodd bynnag, rydym yn amau ei fod yn drosedd sydd heb ei riportio'n ddigonol. Byddwn yn annog pawb i fod yn effro i beryglon sbeicio, ac os ydych chi wedi dioddef, rhowch wybod i'r heddlu."

Sut i riportio sbeicio

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi neu ffrind wedi cael eich sbeicio, mae'n bwysig dweud wrth rywun cyn gynted ag y gallwch.

  • Rhowch wybod i aelod o staff neu staff diogelwch os ydych mewn lleoliad.
  • Arhoswch gyda'ch ffrind a daliwch ati i siarad â nhw.
  • Peidiwch â gadael iddo fynd adref ar ei ben ei hun na gadael gyda rhywun nad ydych yn ei adnabod.
  • Riportiwch i'r heddlu ar-lein, ar 101 neu, mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os oes gennych chi neu rywun arall symptomau

  • Os ydych chi'n poeni ffoniwch 111.
  • Ffoniwch ambiwlans os yw'r symptomau'n gwaethygu.

Os ydych chi'n meddwl y gallai ymosodiad rhywiol fod wedi digwydd

  • Ewch i'ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol agosaf (SARC) am ofal a chymorth arbenigol. I gael rhagor o wybodaeth am SARCs a manylion eich un agosaf, ewch i www.nhs.uk/sarcs

Mae rhoi gwybod i bobl yn rhoi'r cyfle gorau i ofalu amdanoch chi a chasglu unrhyw dystiolaeth lle gallai trosedd fod wedi digwydd.

Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn frawychus riportio cael eich sbeicio, ond mae'r heddlu yma i'ch helpu chi. Byddant yn gwrando arnoch ac yn eich cymryd o ddifrif.