Comisiynydd yn galw ar bobl i fod yn ymwybodol o sbeicio
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn galw ar drigolion i fod yn ymwybodol a gwyliadwrus o beryglon sbeicio.
Sbeicio yw pan fydd rhywun yn rhoi alcohol neu gyffuriau i mewn i ddiod, bwyd neu gorff rhywun arall heb eu caniatâd na'u gwybodaeth. Gall adael dioddefwyr yn agored i droseddau eraill fel ymosodiad rhywiol neu ladrad, a hefyd gael effeithiau hirdymor ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Daw'r alwad yn ystod Wythnos Dwysáu Ymdrechion i Daclo Sbeicio, sy'n gydlyniad cenedlaethol o weithredu gan yr heddlu i fynd i'r afael â sbeicio yn economi'r nos. Yn ystod yr wythnos bydd mwy o batrolau mewn ardaloedd myfyrwyr a phartneriaethau â lleoliadau trwyddedig.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Gall sbeicio o unrhyw fath gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol a meddyliol y dioddefwr. Gall fod yn ffordd i ddrwgweithredwyr gyflawni troseddau mwy difrifol a gall ddifetha bywydau.
“Mae adroddiadau o sbeicio yn parhau i fod yn isel yng Ngwent, fodd bynnag, rydym yn amau ei fod yn drosedd sydd heb ei riportio'n ddigonol. Byddwn yn annog pawb i fod yn effro i beryglon sbeicio, ac os ydych chi wedi dioddef, rhowch wybod i'r heddlu."
Sut i riportio sbeicio
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi neu ffrind wedi cael eich sbeicio, mae'n bwysig dweud wrth rywun cyn gynted ag y gallwch.
- Rhowch wybod i aelod o staff neu staff diogelwch os ydych mewn lleoliad.
- Arhoswch gyda'ch ffrind a daliwch ati i siarad â nhw.
- Peidiwch â gadael iddo fynd adref ar ei ben ei hun na gadael gyda rhywun nad ydych yn ei adnabod.
- Riportiwch i'r heddlu ar-lein, ar 101 neu, mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Os oes gennych chi neu rywun arall symptomau
- Os ydych chi'n poeni ffoniwch 111.
- Ffoniwch ambiwlans os yw'r symptomau'n gwaethygu.
Os ydych chi'n meddwl y gallai ymosodiad rhywiol fod wedi digwydd
- Ewch i'ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol agosaf (SARC) am ofal a chymorth arbenigol. I gael rhagor o wybodaeth am SARCs a manylion eich un agosaf, ewch i www.nhs.uk/sarcs
Mae rhoi gwybod i bobl yn rhoi'r cyfle gorau i ofalu amdanoch chi a chasglu unrhyw dystiolaeth lle gallai trosedd fod wedi digwydd.
Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn frawychus riportio cael eich sbeicio, ond mae'r heddlu yma i'ch helpu chi. Byddant yn gwrando arnoch ac yn eich cymryd o ddifrif.