Comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn cydweithio i gryfhau hawliau dioddefwyr yng Nghymru
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â chomisiynwyr heddlu a throsedd Cymru mewn digwyddiad arbennig a oedd yn cael ei gynnal gan y Comisiynydd Dioddefwyr, Barwnes Newlove, yr wythnos yma.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng nghanolfan gyswllt genedlaethol Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghaerdydd, yn cynnwys trafodaeth bord gron ar sut y gall comisiynwyr yr heddlu a throsedd chwarae rhan hollbwysig yn monitro cydymffurfiaeth yn lleol â'r Cod Dioddefwyr o dan y Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024. Mae gan gomisiynwyr yr heddlu a throsedd gyfrifoldebau newydd i sicrhau bod partneriaid cyfiawnder troseddol yn darparu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr yn unol â'r Ddeddf.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gwrdd â staff Cymorth i Ddioddefwyr i gael gwell dealltwriaeth o'r gwaith maent yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr trosedd ledled y wlad.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd hwn yn gyfle da iawn i ddod at ein gilydd a thrafod sut gall comisiynwyr yr heddlu a throsedd ddefnyddio eu safle i ddwyn partneriaid ynghyd a chryfhau hawliau dioddefwyr yng Nghymru.
"Roedd gwella cymorth i ddioddefwyr trosedd yng Ngwent yn un o'r prif ymrwymiadau yn fy maniffesto cyn i mi gael fy ethol, ac rwyf yn falch i fod yn chwarae rhan bwysig yn gwella'r gwasanaeth y bydd pob dioddefwr trosedd yng Nghymru'n ei dderbyn yn y dyfodol."