Canolfannau diogelu amlasiantaeth newydd wedi cael eu lansio ledled Gwent

14eg Ionawr 2021

Mae canolfannau diogelu newydd a fydd yn helpu oedolion a phlant bregus i gael mynediad i'r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt i'w cadw nhw'n ddiogel wedi cael eu lansio ledled Gwent.

Mae gan bob sir ei chanolfan ei hun sy'n dwyn asiantaethau at ei gilydd, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd ac addysg, y gwasanaeth prawf a'r sector gwirfoddol i sicrhau bod pobl sydd angen help yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mor gyflym â phosibl.

Mae lansiad y canolfannau newydd hyn yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus ym Mlaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen sydd wedi nodi gwelliant o ran ansawdd ac amseroldeb rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid, gan arwain at ganlyniadau gwell i'r bobl sydd angen cymorth.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas: "Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth y gallwn roi sylw i rai o'r problemau mwyaf cymhleth sy'n wynebu ein cymunedau.

“Bydd y canolfannau newydd hyn yn galluogi'r heddlu a phartneriaid i gydweithio'n agosach ac i gynnig ymyraethau cynnar, wedi'u targedu, i'n cymunedau gan ddarparu gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol, a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf.”