Blog: Ymateb gwasanaeth cyhoeddus i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Yn ddiweddar cefais y fraint o annerch y gynulleidfa mewn digwyddiad arbennig i ddathlu pen-blwydd ein partneriaid New Pathways yn 30 oed.
Elusen yw New Pathways sy'n darparu cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan dreisio, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol. Rydym wedi gweithio gyda'r elusen am lawer o flynyddoedd yn awr ac rydym yn rhoi arian iddi i dalu am gynghorydd annibynnol ar drais rhywiol, a gwasanaethau cwnsela, i roi cymorth i bobl sydd wedi goroesi trais a chamdriniaeth. Rwyf wedi gweld gyda'm llygaid fy hun y gwahaniaeth mae'r elusen wedi ei wneud i fywydau goroeswyr yn ein cymunedau.
Yn ogystal â chydnabod y gwaith da mae New Pathways wedi ei wneud dros y blynyddoedd roedd y digwyddiad yn gyfle pwysig i glywed yn uniongyrchol gan y goroeswyr eu hunain. Roedd eu dewrder wrth siarad am y pethau erchyll a oedd wedi digwydd yn eu bywydau yn ysbrydoledig.
Daeth y digwyddiad â goroeswyr, gweithwyr proffesiynol, darparwyr gwasanaeth, partneriaid o'r byd cyfiawnder troseddol ac eraill at ei gilydd. Roedd yn ddiwrnod i adlewyrchu ar ein hymateb fel cymdeithas i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol yng Nghymru i gael gwared ar bob ffurf ar VAWDASV. Mae hon wedi cael ei hymgorffori yn y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) sy'n gosod dyletswydd statudol ar wasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Yn bwysicach, mae gennym ni gyfrifoldeb hefyd i sicrhau bod pawb sy’n dioddef trosedd, yn arbennig pobl sy'n dioddef trais rhywiol, yn cael eu hamddiffyn ac yn derbyn y gefnogaeth iawn.
Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y tri degawd diwethaf, rydym yn gwybod bod gennym ni ffordd hir i fynd eto.
Mae ein llwyddiannau hyd yma wedi cael eu sbarduno gan bobl sy'n malio ac sydd eisiau sicrhau cyfiawnder. Pobl sy'n gweithio i wasanaethau cymorth fel New Pathways, y GIG, yr heddlu, awdurdodau lleol, asiantaethau tai, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, er efallai bod gennym ni lawer o'r bobl iawn yn gweithio yn y llefydd iawn, mae ein systemau, polisïau a gweithdrefnau wedi bod yn araf yn newid. Yn amlach na pheidio mae ein gweithwyr argyfwng, meddygon, nyrsys, neu swyddogion heddlu'n cyflawni gwaith gwych er gwaethaf ein sefydliadau a'n prosesau, yn hytrach nac o'u herwydd nhw. Rhaid i hyn newid.
Rydym yn cydnabod hefyd nad ydym wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i effaith VAWDASV ar blant a phobl ifanc yn y gorffennol. Rydym yn gwybod bod y galw am wasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n profi trais a cham-drin rhywiol yn cynyddu'n sylweddol. Mae'n rhaid i'r gwaith o roi sylw i hyn, a rhoi'r strwythur cefnogi cywir ar waith, fod yn flaenoriaeth i ni.
Dyma'r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt os ydym am barhau i wneud cynnydd a sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, a darparu'r gwasanaethau rydym yn gwybod y mae goroeswyr eu hangen go iawn. Ac er mwyn gwneud hyn rhaid i ni edrych yn fewnol a sicrhau bod ein sefydliadau ni ein hunain yn adlewyrchu'r ymrwymiad yma i newid.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, wedi ymroi i fynd i'r afael â thrais rhywiol, cam-drin rhywiol a threisio yng Ngwent. O fewn y ddau sefydliad rydym wedi rhoi pwyslais sylweddol ar wneud hyn yn iawn.
Mae Heddlu Gwent, ynghyd â phob heddlu yng Nghymru, wedi bod yn rhan o Ymgyrch Soteria Bluestone, sy'n ceisio gwella'r ffordd mae'r heddlu yn ymchwilio i dreisio, cyfweld â dioddefwyr a chefnogi dioddefwyr trwy'r broses cyfiawnder troseddol gyfan. Rwyf i fy hun yn falch bod tîm annibynnol Ymgyrch Soteria wedi cydnabod gwaith cydgysylltydd ymgysylltu â goroeswyr Heddlu Gwent, swydd a grëwyd yn dilyn argymhellion gan ein swyddfa ni. Mae'r cyd-gysylltydd ymgysylltu â goroeswyr yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol gyda goroeswyr, yn gwrando arnynt ac yn dysgu yn sgil eu profiadau, ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu o ran ein polisïau a gweithdrefnau. Mae canlyniadau Ymgyrch Soteria Bluestone yn addawol iawn hyd yn hyn ond dim ond un rhan o ddull ehangach yw hwn i sicrhau bod newid yn cael ei arwain o'r tu fewn.
Mae plismona'n destun craffu fel na welwyd o'r blaen yn awr. Yn genedlaethol, rydym wedi gweld achosion erchyll, uchel eu proffil o gam-drin a thrais rhywiol gan swyddogion sy'n gwasanaethu ac achosion eraill lle'r oedd casineb at fenywod wrth wraidd yr ymddygiad problemus. Yng Ngwent rydym yn benderfynol o roi blaenoriaeth i'r gwaith o gael gwared ar VAWDASV. Mae hyn yn cynnwys grymuso ein gweithwyr i godi llais, herio, adrodd am ymddygiad problemus a pheidio â gwylio'n dawel yn wyneb unrhyw gamymddwyn.
Wrth i ni symud ymlaen mae'n hollbwysig bod gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio, gan adnabod ein meysydd cyfrifoldeb ein hunain er mwyn sicrhau ymrwymiad cyson i gael gwared ar drais a cham-drin rhywiol.
Rhaid i ni sicrhau bod goroeswyr wrth galon ein gwaith, a'n bod yn atebol iddynt wrth ddarparu ein gwasanaethau. Rhaid i ni sicrhau bod ein hymateb i drais yn erbyn menywod, cam--drin domestig a thrais rhywiol yr un gorau posibl.
………………………………………..
Peidiwch â dioddef yn dawel
Os ydych chi wedi dioddef camdriniaeth peidiwch â chadw'n dawel. Mae help ar gael.
Llinell gymorth Llywodraeth Cymru yw Byw Heb Ofn, sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'r llinell gymorth am ddim ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gyda gwybodaeth, i gefnogi pobl ac i gyfeirio pobl at y cymorth cywir. Y rhif ffôn yw 0808 8010 800.
Mae Bwrdd Diogelu Gwent yn cynnig cyngor a gwybodaeth am wasanaethau cymorth lleol. Ewch i'r wefan www.gwentsafeguarding.org.uk a chliciwch ar VAWDASV am wybodaeth a chyngor.
Gallwch riportio unrhyw broblemau yn uniongyrchol wrth Heddlu Gwent hefyd trwy ffonio 101, neu drwy gyfrwng Facebook a X (Twitter gynt).
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.