Atal Camddefnyddio Swydd
Mae arolygwyr wedi canfod bod gan Heddlu Gwent gynlluniau cynhwysfawr a rhagweithiol ar waith i atal camddefnyddio swydd at ddiben rhywiol a mynd i'r afael â hynny.
Ym mis Rhagfyr 2016, argymhellodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) y dylai pob heddlu yng Nghymru a Lloegr, o fewn chwe mis, ddatblygu a dechrau gweithredu cynlluniau yr oedd eu hangen i geisio cudd-wybodaeth am achosion posibl o gamddefnyddio swydd at ddiben rhywiol. Gofynnwyd i heddluoedd gyflwyno cynlluniau i HMICFRS erbyn 31 Mai 2017 i'w hadolygu.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan HMICFRS heddiw, mae'r cynlluniau a gyflwynwyd gan Heddlu Gwent yn gynhwysfawr ac yn adlewyrchu'r strategaeth genedlaethol y cytunwyd arni yng nghyfarfod Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ym mis Ebrill 2017.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth yn y gwasanaeth, trefnodd Heddlu Gwent ymgyrch cyfathrebu ac ymgysylltu fewnol gynhwysfawr yn targedu'r holl swyddogion a staff dros yr haf er mwyn rhoi arweiniad a thynnu sylw at y diffiniad o gamddefnyddio swydd a sut i roi gwybod am bryderon. Yn dilyn cyfarfod briffio gan Uned Wrthlygredd Heddlu Gwent, mae Hwb Dioddefwyr Connect Gwent yn y Coed-duon hefyd wedi sicrhau bod dulliau ar gyfer cofnodi unrhyw bryderon gan ddioddefwyr a rhoi gwybod amdanynt ar waith.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn seiliedig ar adolygiad desg o'r cynlluniau a gyflwynwyd gan heddluoedd. Cynhelir arolygiad llawn o hyn ac elfennau eraill o gyfreithlondeb heddlu yn 2018.
Wrth ganmol Heddlu Gwent am ei fod yn rhagweithiol, meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: “Mae'n braf clywed bod HMICFRS yn teimlo bod y cynlluniau a gyflwynwyd gan Heddlu Gwent yn gynhwysfawr ac yn adlewyrchu'r strategaeth genedlaethol. Yn sicr mae gwaith sylweddol wedi bod yn cael ei wneud yn Heddlu Gwent yn y maes hwn ac mae hwn yn faes sy'n parhau i ddatblygu. Mae codi ymwybyddiaeth a hyder y cyhoedd i roi gwybod am faterion o'r fath yn hanfodol ac mae Heddlu Gwent wedi'i gwneud yn glir nad oes lle yn y gwasanaeth i bobl sy'n camddefnyddio eu swydd at ddibenion rhywiol neu emosiynol. Rwyf am roi sicrwydd i'r cyhoedd y byddwn yn ymdrin ag unrhyw adroddiadau o gamddefnyddio pŵer yn gyflym ac yn gadarn yma yng Ngwent.”
Meddai'r Ditectif Uwcharolygydd Nicky Brain, Pennaeth Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent: “Rydym wir yn gwerthfawrogi'r ymddiriedaeth mae aelodau'r cyhoedd yn ei rhoi ynom i'w diogelu a'u gwasanaethu. Mae'n rhaid i staff yr heddlu weithredu'n foesegol, yn broffesiynol ac yn briodol a thrin pob unigolyn y maent yn cael cyswllt ag ef â pharch ac urddas.
Mae'r gydberthynas broffesiynol rhwng aelod o wasanaeth yr heddlu a'r cyhoedd yn dibynnu ar ymwybyddiaeth a hyder. Nid oes lle yn yr heddlu i bobl sy'n camddefnyddio eu swydd at ddibenion rhywiol. Ni fydd camddefnyddio'r ymddiriedaeth hon gan unrhyw aelod o wasanaeth yr heddlu er mwyn cael cydberthynas rywiol neu amhriodol ag aelod o'r cyhoedd yn cael ei oddef. Bydd unrhyw adroddiad o gamddefnyddio o'r fath yn cael ei ystyried o ddifrif a bydd swyddogion arbenigol yn ymchwilio iddo.
Mae'r rhan fwyaf o swyddogion yn ystyried eu cyfrifoldebau yn hollol o ddifrif ac yn gweithredu â phroffesiynoldeb ac uniondeb ar bob adeg. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon, ffoniwch Heddlu Gwent ar 101 neu e-bostiwch yr Adran Safonau Proffesiynol PSD@gwent.pnn.police.uk .”
Meddai Johanna Robinson, Cydlynydd Hwb Dioddefwyr Connect Gwent: “Rydym yn ystyried unrhyw adroddiad o gamddefnyddio yn hollol o ddifrif ac yn cydnabod yr effaith y gall ei chael ar fywydau pobl. Gall unrhyw un sydd wedi bod yn ddioddefwr neu'n dyst ac mae'r materion hyn wedi effeithio arno ffonio Connect Gwent ar 03001232133 am gymorth cyfrinachol. Gallwn gynnig cymorth ni waeth pryd y digwyddodd y camddefnydd.”