Ar grwydr

16eg Rhagfyr 2022

Yr wythnos hon mae fy nhîm wedi bod ar grwydr ledled Gwent, yn ymweld â chymunedau yn Abertyleri, Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cil-y-coed, Casnewydd a Phontllanfraith.

Yn ogystal â gwrando ar drigolion a siarad â nhw am faterion lleol maen nhw hefyd wedi bod yn cynnal arolwg bach i ddeall barn pobl am gyllideb yr heddlu ar gyfer 2023/24.

Fi sy'n gyfrifol am bennu'r swm o arian rydych chi'n ei dalu tuag at blismona trwy eich treth cyngor. Mae hwn bob amser yn benderfyniad anodd ac ni fyddaf yn ei wneud ar chwarae bach.

Cyn i mi wneud unrhyw benderfyniad ar gyllideb Heddlu Gwent ar gyfer 2023/24, rwyf am glywed eich barn chi. Cwblhewch yr arolwg byr hwn a lleisiwch eich barn.