Cronfa Gymunedol yr Heddlu Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd 2024/25
Sefydliad: Cymorth i Fenywod Cyfannol
Swm a ddyfarnwyd: £32,531
Ardal: Gwent gyfan
Pwrpas: Cyllid i dalu am Weithiwr Derbyn ac Asesu Plant a Phobl Ifanc a fydd yn cynnal proses atgyfeirio chwe cham fel y pwynt cyswllt cyntaf i roi cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi dioddef trosedd (cam-drin domestig a thrais rhywiol).
Sefydliad: Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd
Swm a ddyfarnwyd: £39,929.76
Ardal: Caerffili
Pwrpas: Cyllid ar gyfer canolfan galw heibio, lle bydd gweithwyr ieuenctid a chymuned yn cynnig allgymorth a gweithgareddau canolfan ieuenctid i bobl ifanc. Bydd gweithwyr hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn ystod y dydd ac yn rhoi sesiynau gyda'r nos i blant a phobl ifanc ar bynciau fel camddefnyddio sylweddau a diogelwch ar-lein, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o broblemau fel meithrin perthynas amhriodol ar-lein, masnachu pobl, caethwasiaeth fodern ac ymddygiad peryglus.
Sefydliad: Urban Circle
Swm a ddyfarnwyd: £49,230
Ardal: Blaenau Gwent
Pwrpas: Cyllid i dalu am weithiwr ieuenctid yng Nglynebwy ar gyfer Urban Circle Club a fydd yn darparu sesiynau clwb ieuenctid ac asesiadau sy'n canolbwyntio ar ymddygiad ar gyfer plant a phobl ifanc, i ganfod meysydd a allai eu harwain at ddyfodol o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ar y cyd ag asiantaethau partner bydd y prosiect yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc wneud dewisiadau mwy gwybodus yn eu bywydau a chreu perthnasoedd mwy cadarnhaol trwy weithio'n agos gyda gwahanol asiantaethau, gan gynnwys y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, Heddlu Gwent a Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent. Bydd y prosiect yn darparu allgymorth i'r gymuned hefyd yn ogystal â derbyn atgyfeiriadau amlasiantaeth.
Sefydliad: Brynmawr Interact
Swm a ddyfarnwyd: £10,000
Ardal: Blaenau Gwent
Pwrpas: Cyllid i ddarparu gweithgareddau, sgiliau bywyd, gweithdai a chyfleoedd arwain i blant a phobl ifanc sy'n byw mewn ardal ddifreintiedig fel ffordd o sicrhau bod gweithgareddau a chyfleoedd dargyfeiriol mewn lle i leihau faint o blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol.
Sefydliad: Media Academy Wales
Swm a ddyfarnwyd: £42,945
Ardal: Gwent gyfan
Pwrpas: Cyllid ar gyfer darparu rheolwr achosion i ddatgymalu naratif treisgar casineb tuag at fenywod a’r ffocws ar yr hyn sy'n cael ei alw'n aml yn 'manosphere'. Bydd y fenter yn ehangu a chodi ymwybyddiaeth o'r materion hyn er mwyn atal a diogelu rhag y perygl o ideolegau gwrywdod eithafol. Y nod yw annog a chefnogi plant a phobl ifanc i fabwysiadau gwerthoedd ac agweddau rhag-gymdeithasol, ni waeth beth yw eu rhywedd.
Sefydliad: Mind Casnewydd
Swm a ddyfarnwyd: £41,186.81
Ardal: Casnewydd
Pwrpas: Cyllid ar gyfer darparu gweithiwr prosiectau a fydd yn darparu sesiynau cymorth iechyd meddwl un i un sy'n ystyriol o drawma a dulliau adferol i blant a phobl ifanc 11 i 25 oed. Bydd angen i atgyfeiriadau a dderbynnir fodloni un o dri maen prawf: wedi profi trawma a/neu brofiadau niweidiol niferus yn ystod plentyndod; hanes o ymddygiad gwrthgymdeithasol, bygythiol neu herfeiddiol; a/neu wedi bod yn rhan o broses y System Cyfiawnder Troseddol naill ai fel dioddefwr neu fel cyflawnwr.
Mewn egwyddor, dyfarnwyd cyllid dwy i dair blynedd ar gyfer y prosiectau canlynol a gyllidwyd yn 2022/2023 neu 2023/2024, lle y gwnaed cais amdano yn eu cais gwreiddiol, yn amodol ar adroddiadau boddhaol:
Cymdeithas Cymuned Iemenïaidd Casnewydd: £39,390
County in the Community: £11,355.39
Empire Fighting Chance: £15,158.40
Tŷ Cymuned: £49,886
Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân: £42,631.48
Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid: £48,930.96