Cyllid a Ddyfarnwyd 2022 - 23
Sefydliad: Cefn Golau Together
Swm a Ddyfarnwyd: £11,574.
Ardal Leol: Blaenau Gwent.
Pwrpas: Tuag at y prosiect Nip it in the Bud. Bydd y prosiect yn cynnal gweithgareddau ar gyfer y gymuned gyfan ond gyda phrosiectau penodol ar gyfer teuluoedd, plant ac oedolion ifanc i wella iechyd a lles corfforol a meddyliol, gan hybu ymdeimlad o berthyn, parch a chyfrifoldeb yn y gymuned. Mae gweithgareddau'n cynnwys chwaraeon, cadwraeth amgylcheddol, garddwriaeth a mentrau bwyd lleol. Bydd y gweithgareddau hyn yn rhoi ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth i'r bobl ifanc ac yn lleihau'r perygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau.
Sefydliad: Cymdeithas Cymuned Iemenïaidd Casnewydd (NYCA)
Swm a Ddyfarnwyd: £43,070.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Tuag at Raglen Grymuso Ieuenctid NYCA a fydd yn darparu rhaglen ataliol y gall y bobl ifanc ymwneud â hi, ymgysylltu â hi a chael eu grymuso i wneud dewisiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Bydd yn cael ei darparu trwy gyfrwng sawl agwedd: gweithgareddau chwaraeon, tiwtor/cymorth un i un, modelau rôl cadarnhaol, gan roi cyfle i'r bobl ifanc ddatblygu llais yn y gymuned a chryfhau perthnasau rhwng y bobl ifanc a'r tîm plismona lleol ar yr un pryd.
Sefydliad: County in the Community
Swm a Ddyfarnwyd: £11,307.50.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Darparu'r prosiect Premier League Kicks yn Ringland Bydd sesiynau wythnosol yn cael eu darparu ar ddydd Gwener y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol. Darperir cyfleoedd dysgu hefyd i wella datblygiad a lles pobl ifanc.
Sefydliad: Empire Fighting Chance
Swm a Ddyfarnwyd: £15,158.40.
Ardal Leol: Torfaen.
Pwrpas: Tuag at brosiect Fighting Crime in Torfaen Bydd y prosiect yn cyfuno bocsio digyffwrdd a chymorth personol dwys i bobl ifanc o Dorfaen sydd mewn perygl o ddechrau ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. Bydd pobl ifanc yn cael eu recriwtio trwy lwybrau atgyfeirio sy'n cynnwys ysgolion, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a Heddlu Gwent. Byddant yn cael eu hatgyfeirio at un o ddwy raglen a fydd yn cael eu darparu mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol eraill. Hyfforddiant gyda Phencampwyr i bobl ifanc a fydd yn cymryd rhan mewn rhaglen 20 wythnos sy'n cyfuno bocsio, cefnogaeth seicolegol a mentora; neu Therapi Bocsio i bobl ifanc sy'n dioddef o broblemau mwy dwys lle byddant yn cymryd rhan mewn rhaglen 12 wythnos sy'n cyfuno therapi bocsio gyda hyfforddiant bocsio.
Dolen ar y wefan i’r Cofnod Penderfyniad: 2021-031-pcc-police-community-fund.pdf