Cyllid a Ddyfarnwyd 2021 - 22
Sefydliad: Cymru Creations
Swm a Ddyfarnwyd: £25,000.
Ardal Leol: Blaenau Gwent.
Pwrpas: Tuag at Academi Ffilm Blaenau Gwent, a fydd yn cynnwys cyfle i bobl ifanc greu cyfres o ffilmiau byr yn canolbwyntio ar faterion a phryderon cyfredol e.e. canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r effeithiau mae'n gallu ei gael ar y pryd ac yn hirdymor.
Sefydliad: Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd
Swm a Ddyfarnwyd: £33,314.49.
Ardal Leol: Caerffili.
Pwrpas: Darparu gweithiwr ieuenctid a chymuned i gynnig gweithgareddau i bobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o gyflawni / ail gyflawni neu ddod yn ddioddefwr trosedd / ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Sefydliad: KidCare4U
Swm a Ddyfarnwyd: £22,000.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Tuag at Saturday Kids Club yn y gymuned BAME i blant a phobl ifanc 5 i 16 oed. Bydd yn darparu amgylchedd diogel i bobl ifanc ddatblygu, cyfleoedd i fynd ar leoliad, gwella hunan-barch a hyder yn ogystal â hybu perthnasau cadarnhaol rhwng cymunedau.
Sefydliad: Cymorth i Fenywod Cyfannol
Swm a Ddyfarnwyd: £27,314.15.
Ardal Leol: Gwent Gyfan.
Pwrpas: Ehangu'r prosiect Assertive Outreach i gynnwys Gweithiwr Ieuenctid arbenigol gyda phrofiad o gam-drin domestig. Bydd y Gweithiwr Ieuenctid yn rhoi cymorth i bobl ifanc (16 i 24 oed yn bennaf) mewn argyfwng, ac yn darparu cymorth dilynol i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â'r gwasanaethau priodol. Bydd yr ymyrraeth yn cefnogi pobl ifanc i fod yn fwy diogel a theimlo eu bod yn cael cymorth i adael cydberthnasau camdriniol.
Sefydliad: Ffin Dance
Swm a Ddyfarnwyd: £10,000.
Ardal Leol: Blaenau Gwent.
Pwrpas: Darparu gweithgareddau dargyfeiriol trwy'r prosiect Dance & Enhance a fydd yn cynnal sesiynau dawns a ffitrwydd. Bydd y prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi cael eu gwahardd hefyd a bydd am ddim i bawb sy'n mynychu. Bydd ar agor yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Bydd y prosiect yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth hefyd ar bynciau fel camddefnyddio alcohol, effaith tlodi ac ati, a fydd yn helpu cydlyniant cymunedol a rhoi cyfleoedd ymyrraeth gynnar i sicrhau gwell lles ac ymwybyddiaeth o ddewisiadau bywyd ymysg y rhai sy'n cymryd rhan.
Sefydliad: Cyswllt Cymunedol Dyffryn
Swm a Ddyfarnwyd: £28,028.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Tuag at ddarparu Gweithiwr Ieuenctid Datgysylltiedig a fydd yn ymgysylltu â phobl ifanc sy'n anoddach eu cyrraedd, nad ydynt yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yn y ganolfan y mae'r sefydliad yn eu cynnig. Trwy ddilyn y llwybr hwn gellir rhoi cymorth a chyfleoedd dargyfeiriol i bobl ifanc. Bydd y prosiect yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau arbenigol i annog pobl ifanc i wrthod camddefnyddio alcohol a chyffuriau.