Comisiynu Strategol
Mae'r Comisiynydd yn comisiynu amrywiaeth o wasanaethau yn strategol i fodloni cyfrifoldebau statudol a blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throseddu. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu hariannu trwy gymysgedd o gontractau a grantiau, dros gyfnod canolig i hirdymor fel arfer. Bob blwyddyn bydd y Comisiynydd yn amlinellu ei 'Fwriadau Comisiynu' ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r rhain yn cael eu datblygu a'u cymeradwyo ar y cyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent. Mae gwasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu'n strategol yn cynnwys y canlynol:
Gwasanaethau i ddioddefwyr
Darparu cymorth i ddioddefwyr troseddau i'w helpu nhw i ymdopi â'r niwed maent wedi ei brofi ac ymadfer ohono. Mae hwn yn cynnwys gwasanaethau cyffredinol i oedolion a dioddefwyr troseddau yn ogystal â gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig.
Gwasanaethau dargyfeiriol
Dargyfeirio menywod ac oedolion ifanc oddi wrth y system cyfiawnder troseddol trwy ddarparu cymorth i leihau ad-droseddu.
Gwasanaethau camddefnyddio sylweddau
Darparu cymorth i'r bobl hynny yn y system cyfiawnder troseddol sydd angen rhoi sylw i'w camddefnydd o sylweddau gyda'r nod o leihau ad-droseddu.
Gweithgareddau dargyfeiriol
Darparu gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau eraill sy'n dargyfeirio plant a phobl ifanc bregus a rhai mewn perygl oddi wrth drosedd, a'u galluogi nhw i wireddu eu potensial.
Mae'r Comisiynydd yn cyfrannu at waith y prif bartneriaid diogelwch cymunedol a throseddau ieuenctid hefyd, yn cydweithio i ddarparu prosiectau a gwasanaeth ledled y pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent a fydd yn cefnogi blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throseddu. Cefnogir y gwaith hwn gan gyfraniadau ariannol i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol a Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid yng Ngwent.
Bwriadau Comisiynu Blynyddol:
Bwriadau Comisiynu 24/25
Bwriadau Comisiynu 23/24
Bwriadau Comisiynu 22/23
Bwriadau Comisiynu 21/22
Funding Awarded