Cyd-Bwyllgor Archwilio
Diben y Cyd-bwyllgor Archwilio ac Adnoddau yw:
- rhoi sicrwydd annibynnol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl ynghylch digonolrwydd y fframwaith rheoli risg a'r amgylchedd rheoli cysylltiedig,
- craffu'n annibynnol ar berfformiad ariannol yr Heddlu a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu,
- arolygu'r broses o gofnodi cyllid a addaswyd o Ganllawiau Ymarferol Pwyllgorau Archwilio CIPF ar gyfer Awdurdodau Lleol
Mae'r Pwyllgor yn rhoi sylwadau, cyngor a sicrwydd ar faterion sy'n ymwneud ag amgylchedd rheoli mewnol yr Heddlu a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae'n arolygu materion llywodraethu corfforaethol cyffredinol a bydd yn rhoi sylwadau ar unrhyw bolisïau newydd neu rai arfaethedig a strategaethau a ddarperir gan y Comisiynydd neu newidiadau i bolisïau a strategaethau presennol sy'n sylweddol ym marn y Prif Swyddogion Cyllid o ran risg a chywirdeb ariannol.
Mae'r Pwyllgor yn cynnwys pum unigolyn sy'n annibynnol i'r Prif Gwnstabl a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mrs Dawn Turner (Cadeirydd)
Mr Gareth Watts (Is-gadeirydd)
Mr Andrew Blackmore
Mr Andy Johns
Dr Janet Wademan
Mae'n atebol yn uniongyrchol i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl.
Caiff pump cyfarfod pwyllgor ffurfiol eu trefnu bob blwyddyn (efallai y bydd angen cyfarfodydd ffurfiol ychwanegol). Bydd Agenda, adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd ffurfiol ar gael ar wefannau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl.
Agendâu a Chofnodion
Cylch Gorchwyl y Cyd-bwyllgor Archwilio
Adroddiad Blynyddol a Chylch Gorchwyl
Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2022/23
Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2021/22
Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2020/21
Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2019/20