Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn y cynnig grant a ddyfarnwyd i Media Academy Cymru o gylch cyllido 2025/2026, er mwyn galluogi blwyddyn arall o ddarpariaeth.
Reference Number: PCCG-2025-003
Date Added: Dydd Mawrth, 23 Medi 2025
Details:
Roedd y cyllid a roddwyd i Media Academy Cymru yn dod i gyfanswm o £42,945 tuag at ddarparu Rheolwr Achosion i ddatgymalu'r naratif treisgar o gasineb tuag at fenywod a'r ffocws ar yr hyn sy'n cael ei alw'n 'manosphere'. Mae'r fenter yn ehangu a chodi ymwybyddiaeth o'r materion hyn er mwyn diogelu ac atal rhag y perygl o ideolegau gwrywdod eithafol. Y nod yw annog a chefnogi plant a phobl ifanc i fabwysiadau gwerthoedd ac agweddau rhag-gymdeithasol, ni waeth beth yw eu rhywedd.
O ystyried manteision y ddarpariaeth, mae'r Comisiynydd wedi cytuno i gyllido'r ymyrraeth yn llawn am flwyddyn arall, gan ddyfarnu grant dwy flynedd i Media Academy Cymru sy'n dod i gyfanswm o £42,945.