Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant o Gronfa Gymunedol Swyddfa'r Comisiynydd i chwe sefydliad o gronfa 2021/2022, sef cyfanswm o £143,656.64 a phedwar sefydliad o gronfa 2019/20 a 2020/21, sef cyfanswm o £155,596.72.
Reference Number: PCCG -2020-058
Date Added: Dydd Iau, 4 Mawrth 2021
Details:
Dyfarniadau Grant 2021/22 (Ebrill 2021 - Mawrth 2022):
Cymru Creations (Blaenau Gwent)- £25,000
Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc (Caerffili) - £33,314.49
KidCare4U (Casnewydd) - £22,000
Cymorth i Fenywod Cyfannol (Gwent gyfan) - £27,314.15
Ffin Dance (Blaenau Gwent) - £10,000
Cyswllt Cymunedol Dyffryn (Casnewydd ) - £28,028
Mewn egwyddor, dyfarnwyd cyllid dwy i dair blynedd ar gyfer y prosiectau canlynol a gyllidwyd yn 2019/2020 neu 2020/2021, lle y gwnaed cais amdano yn eu cais gwreiddiol, yn amodol ar adroddiadau boddhaol:
Urban Circle Productions - £50,000
Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân - £40,314.72
The Gap Cymru - £16,931
Tŷ Cymuned - £48,351