Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ddyfarnu cyllid i Llwybrau Newydd a Cymorth i Fenywod Cyfannol yn ystod 2021/22 i sicrhau bod eu gwasanaethau cefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent yn parhau.

Reference Number: PCCG-2020-057

Date Added: Dydd Iau, 4 Mawrth 2021

Details:

Dyfarnwyd y symiau canlynol:

£348,515 i Llwybrau Newydd i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau trais rhywiol yn 2021/2022, gan gynnwys y gwasanaethau canlynol:

* Gwasanaethau canolfannau cyfeirio ymosodiadau rhywiol;

* Gwasanaethau craidd cynghorydd trais rhywiol annibynnol;

* Gwasanaethau cynghorydd trais rhywiol annibynnol ychwanegol - Plant a Phobl Ifanc; Cynghorydd trais rhywiol annibynnol iechyd meddwl a chymunedol;

* Therapi plant; a

* Chwnsela i oedolion.

£69,500 i Cymorth i Fenywod Cyfannol i gyfrannu at ddarparu eu gwasanaethau cymorth Horizon sy'n cynnwys:

* Cwnsela i oedolion; a

* Gwasanaethau cynghorydd trais rhywiol annibynnol.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at gostau rheoli a gweinyddu hefyd.

Attachments: