Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ddyfarnu cyllid i Llwybrau Newydd a Cymorth i Fenywod Cyfannol yn ystod 2021/22 i sicrhau bod eu gwasanaethau cefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent yn parhau.
Reference Number: PCCG-2020-057
Date Added: Dydd Iau, 4 Mawrth 2021
Details:
Dyfarnwyd y symiau canlynol:
£348,515 i Llwybrau Newydd i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau trais rhywiol yn 2021/2022, gan gynnwys y gwasanaethau canlynol:
* Gwasanaethau canolfannau cyfeirio ymosodiadau rhywiol;
* Gwasanaethau craidd cynghorydd trais rhywiol annibynnol;
* Gwasanaethau cynghorydd trais rhywiol annibynnol ychwanegol - Plant a Phobl Ifanc; Cynghorydd trais rhywiol annibynnol iechyd meddwl a chymunedol;
* Therapi plant; a
* Chwnsela i oedolion.
£69,500 i Cymorth i Fenywod Cyfannol i gyfrannu at ddarparu eu gwasanaethau cymorth Horizon sy'n cynnwys:
* Cwnsela i oedolion; a
* Gwasanaethau cynghorydd trais rhywiol annibynnol.
Bydd y cyllid yn cyfrannu at gostau rheoli a gweinyddu hefyd.