Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2019-032
8 Gorffennaf 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn contract Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent am un flwyddyn, hyd at 31ain Mawrth 2021.
PCCG-2019-027
8 Gorffennaf 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant i dri sefydliad sy'n dod i gyfanswm o £39,154.50 o Gronfa Gymunedol yr Heddlu Swyddfa'r Comisiynydd yn ystod chwe mis olaf 2018/19.
PCCG-2019-035
28 Mehefin 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu arian ar gyfer Dull System Gyfan Llwybr Braenaru i Fenywod ac Ymyrryd yn Gynnar 18-25 i Future 4 yn unol â pharagraff 84-86 y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-030
14 Mehefin 2019
Yn unol â'r gofyniad dan Ddeddf Diwygio a Chyfrifoldeb Cymdeithasol yr Heddlu 2011, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi penodi Ms Pamela Kelly (Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent ar hyn o bryd) yn Brif Gwnstabl Dros Dro o'r 1af Gorffennaf 2019.
M-2019-002
5 Mehefin 2019
Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, 5 Mehefin 2019
PCCG-2019-025
20 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo penderfyniad y Prif Gwnstabl i drefnu bod Prif Uwch-arolygydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i Ardaloedd Sofran y Prif Swyddog yng Nghyprus mewn perthynas â gwrandawiad camymddwyn.
PCCG-2019-018
20 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-022
7 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi £25,000 i Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer 2019/20, gydag opsiwn o gyllid cyfatebol o hyd at £25,000 arall. Bydd £5,000 ychwanegol yn cael ei ddarparu er mwyn cefnogi blwyddyn gyntaf yr 'uwch-gynnig' ('superbid') hefyd.
PCCG-2019-020
7 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddarparu cyllid i Llwybrau Newydd a Cymorth i Fenywod Cyfannol i sicrhau bod eu gwasanaethau cefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent yn parhau yn ystod 2019/20.
PCCG-2019-014
15 Ebrill 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau partner ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.