Treuliau a Gwariant
Diffinnir treuliau fel y costau a ysgwyddwyd gan y Prif Swyddogol Cyllid yn barod yn ystod ei ddyletswyddau ac y mae'n eu hawlio yn ôl gan y sefydliad.
Diffinnir gwariant fel unrhyw gost a ysgwyddir gan y sefydliad ar ran y Prif Swyddog Cyllid.
Sylwer:
1. Ble y bo'n briodol mae'r holl filltiroedd o'r cartref i'r gwaith wedi cael eu tynnu cyn cyflwyno'r hawliad.
2. Dim ond dosbarth safonol a ddefnyddir i deithio oni nodir yn wahanol.
3. Wrth archebu tocynnau teithio a llety mae'r holl opsiynau sydd ar gael yn cael eu cymharu er mwyn sicrhau gwerth am arian.
4. Mae pob hawliad yn cael ei ad-dalu oni bai y nodir yn wahanol.