Diwrnod Rhuban Gwyn 2023
White Ribbon yw prif elusen y DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn er mwyn dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod. Eleni, mae'n digwydd ddydd Sadwrn 25 Tachwedd.
Thema Diwrnod Rhuban Gwyn 2023 yw #NewidYStori. Nod #NewidYStori yw gwyrdroi'r naratif bod menywod a merched yn gyfrifol am fygythiadau i'w diogelwch eu hunain.
Mae'r rhan fwyaf o drais yn erbyn menywod yn cael ei gyflawni gan ddynion. Mae menywod a merched yn byw gydag ofn trais gan ddynion nad yw dynion yn ei brofi yn yr un ffordd.
Er enghraifft:
• Mae un allan o bob pedair merch mewn ysgolion cymysgryw wedi cael profiad o gyffwrdd rhywiol dieisiau yn yr ysgol.
• Mae chwech allan o bob 10 o ferched wedi profi aflonyddu gan ddyn yn y gampfa.
• Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 roedd 1.7 miliwn o ferched wedi profi cam-drin yn y cartref.
Mae ymgyrch #NewidYStori yn galw ar ddynion a bechgyn i godi llais yn erbyn ymddygiad problematig a herio agweddau niweidiol. Mae'n eu hannog nhw i sefyll gyda menywod a merched a helpu i sbarduno newid diwylliant mewn cymdeithas.
Mae gwybodaeth ynglŷn â sut gallwch gymryd rhan yn Niwrnod Rhuban Gwyn, naill ai fel unigolyn, ysgol neu fusnes, ar gael ar wefan Rhuban Gwyn.
Yn ystod y cyfnod sy'n arwain at Ddiwrnod Rhuban Gwyn mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant ar-lein o'r enw Stand Up Against Street Harassment. Mae'r sesiynau am ddim a'u nod yw codi ymwybyddiaeth o aflonyddu, uwchsgilio a grymuso unigolion ar draws amryw o leoliadau fel ysgolion, trafnidiaeth gyhoeddus, gwyliau, mannau cyhoeddus, a gweithleoedd, i helpu i liniaru sefyllfaoedd, atal aflonyddu, a chefnogi dioddefwyr. Rhagor o fanylion
Gall dioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol gysylltu â Byw Heb Ofn, gwasanaeth am ddim a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Ewch i wefan Byw Heb Ofn neu ffoniwch 0808 8010 800.