Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent
Mae Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent yn archwilio gweithrediadau a phenderfyniadau'r Comisiynydd. Mae'r Panel yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i chi fel y gallwch asesu p'un a yw'n dwyn y Comisiynydd i gyfrif.
Mae'r Panel yn cefnogi ac yn herio'r Comisiynydd pan fydd yn cyflawni ei swyddogaethau.
Mae'n canolbwyntio ar weithrediadau a phenderfyniadau strategol pwysig a wneir gan y Comisiynydd, gan gynnwys p'un a yw wedi:
- cyflawni'r nodau yn ei Gynllun yr Heddlu a Throseddu a'r adroddiad blynyddol;
- ystyried blaenoriaethau'r partneriaid diogelwch cymunedol;
- ymgynghori'n briodol â'r cyhoedd a dioddefwyr trosedd.
Pwerau'r panel
Mae gan y Panel amrywiaeth o bwerau i'w helpu i gyflawni ei swyddogaeth a chyfrifoldebau penodol yn ymwneud â Chynllun yr Heddlu a Throseddu a'r adroddiad blynyddol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- llunio adroddiadau ac argymhellion ar y ddwy ddogfen hyn, y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu hystyried ac ymateb iddynt
- cyhoeddi pob adroddiad ac argymhelliad a wneir ganddo
- cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod yr adroddiad blynyddol a chwestiynu'r Comisiynydd.
Gall y Panel hefyd lunio adroddiadau neu argymhellion ynghylch y cynion gan y Comisiynydd, ar:
- lefel y praesept (tâl y dreth gyngor i'r heddlu);
- penodi prif gwnstabl.
Aelodau'r panel
I gael rhagor o wybodaeth am Banel yr Heddlu a Throseddu Gwent, ei aelodau, ei gyfarfodydd a'i fusnes, ewch i wefan Panel yr Heddlu a Throseddu.
Gwybodaeth am Gwynion
Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am nifer y cwynion a/neu faterion ynghylch ymddygiad a ddaethpwyd i sylw'r Comisiynydd drwy banel yr heddlu a throseddu.
Caiff y wybodaeth ei diweddaru ar ddechrau pob blwyddyn ariannol fel safon ofynnol.