Yr Ysgrifennydd Cartref mewn perygl o ddychryn cymunedau gyda galwadau am fwy o stopio a chwilio
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi galw ar heddluoedd i ddefnyddio mwy o stopio a chwilio i atal troseddau treisgar.
Pan fydd yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn gyfiawn, mae stopio a chwilio'n galluogi'r heddlu i fynd i'r afael â throsedd ac amddiffyn y cyhoedd. Fodd bynnag, rhaid sicrhau bod gwybodaeth a chudd-wybodaeth gywir yn sail i'w ddefnydd bob tro.
Nid yw'n faes plismona a ddylai gael ei yrru'n fympwyol gan dargedau. Dylai penderfyniadau i ddefnyddio stopio a chwilio gael eu gwneud yn lleol gan heddluoedd, yn seiliedig ar angen penodol ac yn sgil adborth o waith ymgysylltu â’r gymuned.
Yn ogystal, mae canfyddiadau arolygon Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) yn gofyn bod swyddogion heddlu'n sicrhau bod y sail dros weithgarwch stopio a chwilio yn rhesymol, a bod craffu a llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau bod pob rhyngweithiad perthnasol gyda'r cyhoedd yn gyfreithlon ac yn cael ei gofnodi'n gywir.
Nid yw datganiad heddiw'n gwneud dim byd ymarferol i helpu'r heddlu i fynd i'r afael â'r problemau presennol ac mae mewn perygl o ddychryn pobl sydd eisoes yn teimlo eu bod yn cael eu heffeithio'n annheg gan stopio a chwilio.
Mae aelodau'r cyhoedd yn craffu'n annibynnol ar ddefnydd Heddlu Gwent o stopio a chwilio trwy fy Mhanel Cyfreithlondeb a Chraffu. Mae'r panel yn edrych ar ddelweddau camerâu a wisgir ar y corff a chofnodion yr heddlu er mwyn asesu'r sail dros ddefnyddio stopio a chwilio a rhyngweithio rhwng swyddogion a'r cyhoedd. Rwyf am sicrhau ein cymunedau y byddwn yn parhau i fonitro defnydd Heddlu Gwent o stopio a chwilio, ac os canfyddir problemau byddwn yn ymdrin â nhw'n briodol.
Mae Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn rhoi ffocws pellach ar y defnydd o stopio a chwilio fel porth i'r system cyfiawnder troseddol a lleihau anghymesuredd hiliol i ddioddefwyr a throseddwyr.
Mae stopio a chwilio'n dacteg bwysig i atal troseddau treisgar, ond dim ond un dacteg allan o lawer ydyw. Mae angen i ni fynd i'r afael â throseddau treisgar pan fyddant yn digwydd, ond rhaid i ni weithio i atal pobl rhag ymwneud â nhw yn y lle cyntaf.
Er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn mae angen gwaith partner i roi sylw i'r broblem o'r oedran cynharaf posibl. Rydym yn gwneud llawer o'r gwaith yma'n barod yng Ngwent gyda'r heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion, y sector iechyd a'r trydydd sector i gyd yn cydweithio i atal pobl ifanc rhag dilyn llwybr sy'n arwain at droseddau treisgar.
Er fy mod yn cytuno bod yn rhaid rhoi terfyn ar ddiwylliant o droseddau treisgar a'r perygl i fywydau mae’n ei olygu, ni ddylid disgwyl i stopio a chwilio fod yr unig ateb. Rhaid i ni beidio â chanolbwyntio ar symptomau troseddau treisgar yn unig a gweithio'n galed i geisio deall beth sy’n eu hachosi.